BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Rygbi XIII

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 01 Mai 2010

Bradford Bulls 0-19 Crusaders

Sgoriodd Michael Witt bymtheg o bwyntiau wrth i'r Crusaders greu sioc yng ngêm agoriadol penwythnos Murrayfield gan drechu'r Bradford Bulls.

Bradford Bulls 0-19 Crusaders

Croesodd Witt am ddwy gais yn yr hanner cyntaf cyn i'r eilydd Jarrod Sammut sicrhau'r fuddugoliaeth gyda chais yn yr ail hanner.

Roedd Sammut yn chwarae yn ei gêm gyntaf i'r Crusaders ers ymuno gyda'r clwb o Penrith Panthers yn ystod yr wythnos.

Dim ond un sesiwn ymarfer yr oedd Sammut wedi ei fynychu ers cyrraedd Prydain o Awstralia ddydd Gwener.

Roedd y Crusaders yn awyddus i dalu'r pwyth yn ôl wedi iddynt golli yn erbyn y Bulls yn Odsal fis diwethaf.

Fe ddaeth cais agoriadol y gêm wedi 22 munud ac fe chwaraeodd Gareth Thomas ran amlwg.

Cafwyd rhediad unigol gan gyn gapten Cymru a'r Llewod ac fe ochrgamodd yn wych cyn i Michael Witt groesi am y cais, dyma'n ei drosi'n llwyddiannus.

Roedd Witt i ymestyn mantais y Crusaders wedi 38 munud wrth iddo lwyddo gyda gôl adlam.

Ac yn symudiad olaf yr hanner fe sgoriodd Witt ei ail gais o'r gêm gan groesi o dan y pyst a hynny wedi i'w gic uchel achosi problemau i'r Bulls.

Fe drosodd Witt y cais yn llwyddiannus ac roedd tîm Brian Noble ar y blaen 13-0 ar yr egwyl.

Roedd dihanga i'r Crusaders wedi 66 munud pan benderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd Brett Kearney wedi tirio yn y gornel.

Ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel munud yn ddiweddarach gyda Jarrod Sammut yn sgorio cais yn ei gêm gyntaf i'r clwb.

Croesodd Sammut am drydedd cais y Crusaders wedi cic a chwrs ac fe lwyddodd Witt gyda'r gôl ganlynol i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol.


Bradford: Kearney, Sheriffe, Crookes, Nero, Halley, Sykes, Orford, Scruton, L'Estrange, Lynch, Whitehead, Donaldson, Menzies.
Eilyddion: Godwin, Worrincy, Hall, Kopczak.

Crusaders: Schifcofske, Thomas, Mellars, Hanbury, Youngquest, Witt, Lupton, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Trimarchi.
Eilyddion: Sammut, Peek, Thackray, Winternstein.

Dyfarnwr: Richard Silverwood (Dewsbury)


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy