Gosodwyd y sylfaen gyda dau gais yn y saith munud agoriadol gan Hodgson ac yna Kevin Brown. Ymatebodd y tîm cartref gyda chais Weller Hauraki, ond aeth yr ymwelwyr yn glir gyda geisiau Leroy Cudjoe a Scott Grix bob ochr i hanner amser. Rhoddodd cais Luke Dyer lygedyn o obaith i'r Crusaders, ond gorffennodd Huddersfield yn gryf wrth i Hodgson gwblhau ei hat-tric ar ôl cais Brad Drew.
Crusaders: Schifcofske, Thomas, Dyer, Mellars, Youngquest, Witt, Lupton, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Winternstein. Eilyddion: Thackray, Peek, Flower, White. Huddersfield: Cudjoe, Lolesi, Lawrence, Whaturia, D Hodgson, Brown, Brough, D Griffin, Horne, Mason, Gilmour, Fa'alogo, Faiumu. Eilyddion: Crabtree, Patrick, Drew, Grix. Dyfarnwr: Phil Bentham (Warrington).
 |