Cyn-gapten Cymru oedd y cyntaf i groesi o fewn y 10 munud agoriadol wrth hyrddio drosodd yn y gornel dde.
Ar ôl i Damien Blanch sgorio i'r tîm cartref, aeth y Crusaders ar y blaen unwaith eto wrth i Michael Witt redeg yn glir am yr ail gais.
Ond roedd hi'n gyfartal 10-10 ar yr egwyl diolch i gais Luke George.
Gwastraffodd Wakefield ambell i gyfle i fynd ar y blaen, ond fe wnaeth Nick Youngquest yn fawr o bêl rydd i wibio hyd y cae i sgorio trydydd cais yr ymwelwyr.
A seliwyd y fuddugoliaeth 13 munud o'r diwedd gyda chais Vince Mellars.
Wakefield: Blaymire, Blanch, Murphy, Millard, George, Jeffries, Obst, Moore, Leo-Latu, Korkidas, Demetriou, Morrison, Cooke.
Eilyddion: King am Moore (25), Henderson am Leo-Latu (20), Tronc am Korkidas (14), Kirmond am Demetriou (26).
Ceisiau: Blanch, George. Goliau: Cooke.
Crusaders: Schifcofske, Thomas, Chan, Mellars, Youngquest, Lupton, Witt, O'Hara, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Winternstein, Trimarchi.
Eilyddion: Peek am O'Hara (20), Flower am O'Hara (50), Thackray am Bryant (22), Hanbury am Winternstein (53).
Ceisiau: Thomas, Witt, Youngquest, Mellars. Goliau: Witt 2.
Torf: 4,671
Dyfarnwr: Gareth Hewer (Whitehaven).