| Yr oedd Dave Halley wedi sgorio cais i'r Bulls wedi tri munud yn unig cyn i Weller Hauraki a Vince Mellers groesi i'r ymwelwyr. Croesodd Chris Nero a Glenn Hall am geisiau i adfer mantais y tîm cartref, oedd ar y blaen 14-12 ar yr egwyl. Er i Michael Witt lwyddo gyda dwy gôl i gadw'r Crusaders o fewn cyrraedd bu'n rhaid i'r Bulls ddisgwyl tan y ddeg munud olaf am eu pedwerydd cais gyda Michael Platt yn croesi i sicrhau'r fuddugoliaeth.
Bradford: Kearney, Sheriffe, Platt, Nero, Halley, Sykes, Orford, Scruton, L'Estrange, Lynch, Whitehead, Langley, Menzies. Eilyddion: Godwin, Donaldson, Worrincy, Hall. Crusaders: Schifcofske, Thomas, Dyer, Mellars, Youngquest, Witt, Martin, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Trimarchi. Eilyddion: Lupton, Winternstein, Peek, Thackray. Dyfarnwr: James Child (Dewsbury)
 |