| Roedd Saints ar y blaen 24-6 ar yr egwyl yn dilyn ceisiau gan Kyle Eastmond, Vince Mellars, Francis Meli a Chris Dean. Ac fe ymestynnodd St Helens eu mantais ymhellach wedi ceisiau Paul Clough a Leon Pryce. Ond fe frwydrodd yr ymwelwyr yn ôl gyda Gareth Raynor, Lincoln Withers a Anthony Blackwood yn croesi i ychwanegu at geisiau Vince Mellars a Jamie Thackray yn gynharach. Ond gyda phedwar munud o'r gêm yn weddill fe sgoriodd Eastmond gol adlam i sicrhau'r fuddugoliaeth i St Helens.
St Helens: Eastmond, Gardner, Dean, Wheeler, Meli, Pryce, Roby, Graham, Cunningham, Hargreaves, Flannery, Wilkin, Clough. Eilyddion: Fozzard, Moore, Ashurst, Fa'asavalu. Crusaders: Youngquest, Blackwood, Dyer, Mellars, Raynor, Lupton, Witt, O'Hara, Withers, Bryant, Chan, Hauraki, Trimarchi. Eilyddion: Martin, Winternstein, Peek, Thackray. Dyfarnwr: Phil Bentham (Warrington).
 |