Bu nifer o wirfoddolwyr yn clirio eira oddi ar faes y Cae Ras er mwyn gallu cynnal y gêm, ac fe gafodd eu gwaith caled ei wobrwyo yn fuan wrth i Youngquest groesi am gais gyntaf y gêm.
Ond tarodd Hull yn ôl yn fuan wrth i Lee Radford wasgu drwy fwlch yn yr amddiffyn, cyn i Tom Briscoe ychwanegu cais arall. Troswyd y ddau gan Craig Fitzgibbon.
Roedd hi'n gyfartal 12-12 ar yr egwyl pan drosodd Witt ei gais ei hun, cyn i'r ymwelwyr fynd ar y blaen eto wedi awr o chwarae diolch i gais Kirk Yeaman.
Ond i'r tîm cartref aeth y gair olaf ar fuddugoliaeth wrth i Youngquest godi'n wych i ddal cic uchel ac fe hedfanodd trosiad Witt rhwng y pyst.
Crusaders: Kear, Youngquest, Dyer, Mellars, Raynor, Lee, Witt, O'Hara, Withers, Bryant, Hauraki, Chan, Trimarchi.
Eilyddion: Lupton am Lee (54), Peek am O'Hara (24), Thackray am Bryant (21), Winternstein am Trimarchi (31).
Hull: Tansey, Hall, Whiting, Yeaman, T. Briscoe, Washbrook, Horne, O'Meley, Berrigan, Radford, Burnett, Manu, Fitzgibbon.
Eilyddion: Lauaki am T. Briscoe (30), Dowes am O'Meley (26), Houghton am Berrigan (54), Cusack am Radford (23).
Torf: 6,794
Dyfarnwr: I Smith (Oldham).