Llwyddodd y Crusaders i ddal eu tir yn erbyn y pencampwyr Leeds Rhinos yn ei gêm agoriadol wythnos yng nghynt, ond dim ond un tîm oedd ynddi yn Stadiwm DW wrth i'r Warriors ddangos eu dawn.
Y cefnwr Cameron Phelps oedd seren y sioe wrth iddo greu dau gais a sgorio un o'r saith i'r tîm cartref.
Daeth pedwar o'r rheini o fewn y 33 munud cyntaf wrth i Amos Roberts, Andy Coley, Martin Gleeson a Pat Richards groesi.
Sgoriodd Luke Dyer i roi gobaith i'r ymwelwyr ychydig cyn yr hanner, ond Wigan reolodd yr ail hanner wrth Phelps, Roberts a Lee Mossop groesi i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus.
Wigan: Phelps, Roberts, Gleeson, Carmont, Richards, S. Tomkins, Leuluai, Fielden, Riddell, Prescott, Hansen, J. Tomkins, O'Loughlin.
Eilyddion: Coley, Paleaaesina, Deacon, Mossop.
Crusaders: Youngquest, Dyer, Trimarchi, Mellars, Raynor, Witt, Withers, O'Hara, Lee, Thackray, Chan, Hauraki, Winternstein.
Eilyddion: Peek, James, Bryant, Lupton.
Dyfarnwr: J Child (Dewsbury).