Gyda'r maes o dan haen o eira roedd y sgôr yn gyfartal 6-6 ar yr egwyl gyda Michael Witt yn cael o fraint i sgorio pwyntiau cyntaf y Crusaders yn eu cartref newydd.
Ond fe fanteisiodd Scott Donald ar gamgymeriad gan Brett Delaney i dirio cais cyntaf y gêm ac fe ychwanegodd Kevin Sinfield y pwyntiau ychwanegol cyn i Raynor wneud yn iawn am ei flerwch blaenorol i groesi yn y gornel. Ar ôl ymdrechu'n galed am bron i 70 munud, fe ildiodd llinell amddiffynnol y Crusaders i bwysau'r ymwelwyr ac fe groesodd Danny McGuire, Lauitiiti (2), a Sinfield am geisiau hwyr i roi gogwydd annheg i'r sgôr terfynol. Crusaders: Youngquest, Dyer, Trimarchi, Mellars, Raynor, Witt, Withers, O'Hara, Lee, Bryant, Chan, Peek, Winternstein. Eilyddion: Thackray, James, White, Lupton. Leeds: Watkins, Donald, Delaney, Senior, Hall, McGuire, Burrow, Leuluai, Buderus, Bailey, Jones-Buchanan, Ablett, Sinfield. Eilyddion: Lauitiiti, Diskin, Eastwood, Kirke. Dyfarnwr: B Thaler (Wakefield)
 |