| Mae'r chwaraewr o Awstralia yn dychwelyd i rygbi xiii wedi naw mis yn chwarae i glwb rygbi'r undeb Otago yn Seland Newydd. Mae Witt, fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 26 oed ar ddydd Calan hefyd wedi chwarae i Warriors Seland Newydd, Manly a Parramatta. Mae Witt yn disgwyl i sicrhau trwydded waith ac nid oes disgwyl iddo ymuno gyda'r Crusaders tan wedi'r Nadolig. Mae'r Crusaders eisoes wedi arwyddo bachwr Hull, Tommy Lee a'r gred yw eu bod wedi cytuno i arwyddo'r asgellwr Matt Utai o'r Canterbury Bulldogs. Ac mae adroddiadau bod canolwr Wakefield Tony Martin a cefnwr Gateshead Thunder Nick Youngquest yn ddau chwaraewr mae'r Crusaders yn llygadu. Mae disgwyl y bydd y Crusaders yn cadarnhau yn fuan eu bod yn symud o Ben-y-bont i Wrecsam ar gyfer eu hail dymor yn y Super League.
 |