| Mae'r BBC wedi cael ar ddeall mai Daish, rheolwr Ebbsflett a Hudson yw'r ffefrynnau i olynu Dean Holdsworth ar Barc Spytty. Yn ogystal mae cyn-gynorthwydd Sheffield Wednesday a Hartlepool Colin West hefyd yn cael ei ystyried gan yr Alltudion. Mae'r clwb wedi cyfweld 10 o ymgeiswyr a bellach wedi llunio rhestr fer. Y cyfarwyddwr pêl-droed Tim Harris sydd wedi bod wrth y llyw dros dro ers i Holdsworth adael am Aldershot ym mis Ionawr. Roedd Harris wedi mynnu nad oedd 'na frys i benodi parhaol i Holdsworth, oedd wedi arwain y clwb i'r Gyngres y tymor diwethaf. Yn wreiddiol doedd Casnewydd ddim wedi bwriadu penodi rheolwr tan ddiwedd y tymor presennol. Ond dim ond dau o'u 13 gêm y mae Casnewydd wedi ennill ers ymadawiad cyn ymosodwr Bolton. Roedd John Hartson a Paulo Di Canio wedi datgan diddordeb yn y swydd yn wreiddiol cyn tynnu'n ôl o'r broses. Y gred yw bod gefaill Dean Holdsworth, David a fu'n rheolwr Mansfield tan yn ddiweddar, hefyd wedi cael ei gyfweld. Martin Foyle, Rigobert Song a Julian Dicks yw'r enwau eraill y credir i gael eu cyfweld gan y clwb.
 |