BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 22 Mawrth 2011

Casnewydd yn agosáu at reolwr newydd

Mae Casnewydd yn gobeithio penodi rheolwr newydd cyn diwedd yr wythnos.

Bydd naw ymgeisydd yn cael eu cyfweld dros y dyddiau nesaf, ond ni fydd John Hartson yn un o'r rheiny.

Yn ôl mis Ionawr, dywedodd cyn-ymosodwr Cymru fod ganddo ddiddordeb yn olynu Dean Holdsworth yn rheolwr Casnewydd, ac fe dderbyniodd swydd rhan amser i hyfforddi'r chwaraewyr.

Ond mae Hartson bellach wedi penderfynu peidio gwneud cais swyddogol am y swydd.

"Mae John yn bwriadu parhau gyda'i yrfa yn y cyfryngau ac rydym yn diolch iddo am ei ddiddordeb a'i amser," meddai cyfarwyddwr Casnewydd Matt Southall.

Ychwanegodd Southall bod Paolo di Canio hefyd wedi holi ynglŷn â'r swydd ond ei fod yntau wedi penderfynu peidio gwneud cais.

"Roedd Paolo wedi bwriadu dod i Gasnewydd am gyfweliad yn gynharach yn y mis," meddai Southall. "Ond o ganlyniad i salwch teuluol, nid yw Paolo yn sicr o'i gynlluniau yn y dyfodol agos."

Tim Harris sydd wedi bod yn gyfrifol am y tîm ers i Holdsworth adael ar gychwyn mis Ionawr i gymryd swydd gyda Aldershot.

Un gêm yn unig mae Casnewydd wedi ennill mewn 11 cynnig o dan Harris, rhediad sydd wedi chwalu eu gobeithion o gyrraedd gemau ail-gyfle Uwch Gynghrair Blue Square Bet.

Taith i Wrecsam, sy'n bedwerydd yn y tabl, sydd nesaf i'r Alltudion ddydd Sul nesaf.

chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy