Yn ôl y clwb o Uwch Gynghrair Blue Square, bydd y tri yn dychwelyd am ail gyfweliad yr wythnos nesaf a hefyd yn cael "asesiad ymarferol". Y gobaith yw penodi cyn y gêm gynghrair yn erbyn Grimsby Town ar 2 Ebrill. Cyn hynny, bydd Casnewydd yn wynebu Wrecsam ddydd Sul a Gateshead nos Fawrth. Nid yw'r clwb wedi datgelu enwau'r tri sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ond mae adroddiadau yn honni mai Martin Foyle, Mark Stimson a David Holdsworth. Mae Holdsworth yn frawd i'r cyn-reolwr Dean Holdsworth, gadawodd y clwb ym mis Ionawr er mwyn ymuno gyda Aldershot o'r Ail Adran. Un gêm yn unig mae Casnewydd wedi ennill mewn 11 cynnig o dan Harris, rhediad sydd wedi chwalu eu gobeithion o gyrraedd gemau ail-gyfle Uwch Gynghrair Blue Square Bet.
 |