Ond, cafodd dîm Tim Harris y dechrau gwaethaf posib, wrth i ergyd Damian Reeves o ochr y cwrt roi'r ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond 40 eiliad. Daeth Casnewydd yn gyfartal o fewn saith munud, wrth i Carl Pirgianni roi'r bêl yn ei rwydd ei hun, o beniad Wayne Hatswell. Cafodd gynnig Chris Todd ei chlirio oddi ar y llinell, cyn i Warren benio'r gôl fuddugol o groesiad Danny Rose.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Hatswell, Anaclet, Collins, Rose, Rogers, Foley (Matthews,75), Morgan (Knights,88). Eilyddion: Garner, Lennon,Griffin. Altrincham: Dootson, Bateson, Joseph, Williams, Brown (Danylyk,49), Baynes, Piergianni, Lawton, Twiss, Connors, Reeves. Eilyddion: Coburn, Smith,Woods, Kidd. Dyfarnwr: Andy Hendley. Torf: 1,201.
 |