Daeth gôl gyntaf Seddon efo cic o'r smotyn. Y dyfarnwr yn gweld Danny Rose yn llawio croesiad Sean Clancy.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gasnewydd, pan gafodd Tom Miller ei hel o'r cae am dacl hwyr ar Jamie McGuire wedi 70 munud.
Serch hynny, rhoddodd Gary Warren obaith i Gasnewydd, yn unioni'r sgôr wedi 74 munud; ond, sgoriodd Seddon ei ail gôl deng munud yn ddiweddarach.
Seliwyd y fuddugoliaeth gan gôl hwyr Donnelly.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Anaclet, Collins, Rose (Knights,65), Miller, Foley, Matthews (Lennon,64), Morgan.
Eilyddion: Garner, Hatswell, Lennon, Knights, Griffin.
Fleetwood: Hurst, McNulty, Brown, Linwood (Pond,77), Cavanagh, Barry, Clancy, Mullan, McGuire, Viera (Parker,60), Seddon (Donnelly,90).
Eilyddion: Davies, Pond, Milligan, Parker, Donnelly.
Torf: 1,716.
Dyfarnwr: M Thompson.