Ond, mae'r canlyniad hefyd yn golygu nad yw tîm Tim Harris wedi ennill yn ystod 2011, rhediad sy'n ymestyn yn ôl 12 gêm.
Aeth Caergrawnt ar y blaen wedi naw munud, wrth i ergyd Simon Russell hedfan i mewn i gornel chwith y rhwyd.
Ond, daeth y tîm cartref yn gyfartal, ar ôl i Simon Brown, golwr Caergrawnt, wthio'r eilydd Robbie Matthews yn y cwrt.
Pwyntiodd y dyfarnwr, Mr Bennett, at y smotyn, ac fe wnaeth Collins y gweddill.
Gyda deuddeg gêm yn weddill o'r tymor, mae'n edrych yn annhebygol iawn y bydd Casnewydd yn chwarae yn y gemau ail-gyfle.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Collins, Rose, Foley, Griffin (Matthews,46), Morgan (McDonald,81), Miller, Odubade.
Eilyddion: Garner, Knights, Lennon.
Caergrawnt: Brown, Roberts, Saah, Partridge, Jennings, Russell, Wellard, Berry, Walker (Patrick,66), Wright, Marriott (McAuley,66).
Eilyddion: Naisbitt,Jeffers, Thorpe.
Dyfarnwr: A Bennett (Lloegr).