Hon oedd y bedwaredd gêm gyfartal yn olynol i dîm Tim Harris, a daeth y goliau i gyd o fewn chwarter cyntaf y gêm.
Blerwch gan olwr Casnewydd, Glyn Thompson, arweiniodd at gôl agoriadol Caerfaddon wedi chwe munud.
Methodd ei gic yn llwyr pan gyrhaeddodd y bêl wrth ei draed, a'r ymosodwr, Scott Murray, gwblhaodd y dasg hawdd o roi'r bêl yn y rhwyd.
Daeth Casnewydd yn gyfartal wyth munud yn ddiweddarach, gyda Yemi Odubade'n hawlio'i gôl gyntaf i'r clwb, yn dilyn croesiad Graeme Montgomery.
Ar ôl dwy gôl agoriadol flêr, cafwyd gôl gampus gan Wayne Hatswell i roi'r ymwelwyr ar y blaen; ei ergyd o 35 llath yn hedfan i gornel uchaf rhwyd Caerfaddon.
Ond, daeth y tîm cartref yn gyfartal unwaith yn rhagor, gydag ergyd Lee Phillips o 20 llath yn drech na Thompson.
Bellach, mae Casnewydd yn seithfed yn y tabl, ond heb ennill yr un o'u deg gêm ddiwethaf.
Caerfaddon: Robinson, Simpson, Rollo, Jones, Ruddick, Murray (Hogg,71), Connolly, Canham, Watkins (Brown,76), Jombati, Phillips.
Eilyddion heb eu defnyddio: Borhy, Henry, Hart.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Hatswell, Hughes, Knights, Collins, Rose, Montgomery (Miller,56), Griffin (Matthews, 66), Odubade (Morgan,72).
Dyfarnwr: Stuart Burt.
Torf: 1,551.