BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 12 Chwefror 2011

Mansfield Town 3-3 Casnewydd

Bu'n rhaid i Gasnewydd fodloni ar bwynt yn dilyn eu hymweliad â Field Mill, mewn gêm a welodd y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf.

Cafwyd dechrau dramatig i'r gêm gyda blaenwr Casnewydd, Robbie Matthews, yn sgorio yn y munud cyntaf.

Ar ôl tri munud, roedd yr ymwelwyr wedi dyblu eu mantais, efo Jamie Collins yn rhwydo'r ail.

Aeth Casnewydd ymhellach ar y blaen ar ôl 28 munud, yn dilyn ergyd hyfryd gan Danny Rose.

Ond, tarodd Mansfield yn ôl efo dwy gôl mewn tri munud. Daeth eu gôl gyntaf ar ôl hanner awr, gyda Lewis Moult yn rhwydo.

Ddau funud yn ddiweddarach, cafodd Moult ei lorio yn y cwrt gan Chris Todd. Gwelodd Todd gerdyn coch am ei drafferthion, a sgoriodd Lewis Briscoe o'r smotyn.

Gyda symudiad olaf yr hanner cyntaf, roedd Mansfield yn gyfartal, wrth i Moult hawlio'i ail gôl o'r gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn parhau yn yr wythfed safle yn y tabl.


Mansfield: Collett, Sandwith, Day, Naylor, Silk, Briscoe, Thompson, Murray, Cain, Moult, Connor (Parker 74).
Eilyddion heb eu defnyddio: Grof, Nix, Smith, Spence.

Goliau: Moult 31, Briscoe 35 pen, Moult 45.

Casnewydd: Garner, Collins, Todd, Hatswell, Bignot, Miller, Odhiambo, Rose, Knights (Foley 74), Griffin (Odubade 82), Matthews (Morgan 46).
Eilyddion heb eu defnyddio: Thompson, Burns.

Cerdyn coch: Todd (34).
Cerdyn melyn: Matthews, Knights, Hatswell.
Goliau: Matthews 1, Griffin 2, Rose 28.

Torf: 1,986
Dyfarnwr: D Mohareb (Swydd Gaer).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy