BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 29 Ionawr 2011

Histon 0-0 Casnewydd

Enillodd Tim Harris ei bwynt cyntaf ers cael ei benodi'n rheolwr dros dro Casnewydd - ond fe allai fod wedi bod yn dri phwynt yn ddigon hawdd.

Cafodd Craig Reid gyfle i fachu buddugoliaeth yn y 10 munud olaf ond gwelodd ei gic o'r smotyn yn cael ei harbed yn gampus gan Joe Welch.

Roedd hi'n ail hanner da o bwyso gan yr ymwelwyr, gyda'r postyn yn achub Histon ar ôl peniad Sam Foley o groesiad Tom Miller.

Er iddo fwynau prynhawn digon distaw, bu'n rhaid i Glyn Garner fod ar ei orau yn y gôl i Gasnewydd er mwyn arbed ergyd James Stevenson yn yr hanner cyntaf.

Mae'r gêm gyfartal yn ymestyn rhediad Casnewydd heb ennill i chwe gêm.


Histon: Welch, Okay, Oyebanjo, Clerima, Mills, Smith, Wootton, Stevenson, Sparkes (Attwood 76), Riza (Taaffe 87), Murray.
Eilyddion: Lawton, Stewart, York.

Cerdyn melyn: Riza.

Casnewydd: Garner, Bignot, Todd, Hatswell, Burns (Odhiambo 42), Knights (Morgan 66), Rose, Miller, Montgomery, Foley (Matthews 75), Reid.
Eilyddion: Thompson, McDonald.

Cerdyn melyn: Burns, Hatswell.

Torf: 452
Dyfarnwr: S Ross (Boston).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy