Yr oedd Michael Gash wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen wedi 19 munud ond i Danny Rose unioni'r sgôr saith munud yn ddiweddarach. Ond roedd Aaron O'Connor i adfer mantais yr ymwelwyr gyda phum munud o'r hanner cyntaf yn weddill. Yn ystod y munudau olaf fe fethodd Rose gic o'r smotyn i Gasnewydd cyn i Matt Johnson sgorio'r drydedd i Rushden.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Todd, Hughes (Odhiambo 46), Fowler (Morgan 63), Collins, Rose, Foley, Knights (Montgomery 76), Reid, Matthews. Eilyddion: Garner, McDonald. Goliau: Rose 26. Rushden & Diamonds: Joe Day, Prosser, Osano, Jamie Day, Corcoran, Porter, Mills, Power (Johnson 81), O'Connor (Farrell 90), Charles (Smith 60), Gash. Eilyddion: Evans, Thorne. Goliau: Gash 19, O'Connor 40, Johnson 89. Dyfarnwr: Wayne Barratt (Sir Gaerwrangon).
 |