Roedd yr holl sylw cyn y gêm ar Holdsworth ar ôl i Aldershot gyhoeddi ei fod wedi cytuno i adael Casnewydd er mwyn cymryd swydd yn rheolwr y clwb o'r Ail Adran.
Ond er gwaethaf yr aflonyddwch yna, aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond 10 munud wrth i Craig Reid rwydo gyda foli wych.
Ymatebodd Alex Rodman i'r tîm cartref dau funud wedi'r egwyl, ond roedd Holdsworth yn dathlu ar yr ystlys unwaith eto wrth i Reid sgorio eto wedi 66 munud wrth godi'r bêl dros ben y golwr cartref.
Roedd hi'n gyfartal eto pedwar munud yn ddiweddarach pan sgoriodd Rodman gyda tharfan o ergyd o 20 llath, a chasglodd yr ymosodwr ei hat-tric a buddugoliaeth i'w dîm yn y funud olaf gyda chic o'r smotyn.
Cafodd Gary Warren ei ddanfon o'r maes wrth ildio'r gic o'r smotyn yna, ac roedd gwaeth i ddod i Gasnewydd wrth i Jamie Collins ei ddilyn i'r ystafelloedd newid ar ôl casglu ail gerdyn melyn.
Tamworth: Atkins, Tait, Marshall, Mitchell, Barrow, Rodman, Sheridan (Perry 69), MacKenzie, Bradley, Thomas, Yussuf (Lake-Gaskin 90).
Eilyddion: Connor, Wilkinson, Bojang.
Cerdyn melyn: Bradley.
Goliau: Rodman 47, 76, 90 pen.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, McDonald, Collins, Knights (Rogers 90), Rose, Montgomery (Matthews 58), Foley (Fowler 89), Reid.
Eilyddion: Garner, Odhiambo.
Cerdyn coch: Warren (90), Collins (90).
Cerdyn melyn: McDonald, Collins.
Goliau: Reid 10, 66.
Torf: 803
Dyfarnwr: Andy Hendley (West Midlands).