Yr ymwelwyr oedd wedi rheoli'r hanner cyntaf ac fe sgoriodd Chris Todd o groesiad Graeme Montgomery i'w rhoi ar y blaen wedi 43 munud. Cafodd yr ymwelwyr gyfleoedd i ymestyn eu mantais ond gyda thri munud yn weddill roedd Southport yn gyfartal. O groesiad y Cymro Rob Marsh-Evans fe sgoriodd Kevin Lee gyda pheniad i unioni'r sgôr. Dyfarnwyd cic o'r smotyn i Southport yn yr eiliadau olaf pan loriwyd Mike Powell gan Todd yn y cwrt cosbi. Ac fe sgoriodd Gray, dreuliodd gyfnod gyda Bangor, i sicrhau buddugoliaeth ddramatig i dîm Liam Watson.
Southport: McMillan, Williams, Flynn, Davis, Lee, Ledsham, Moogan, Blakeman, Barratt, McNeil, Kissock. Eilyddion: Dickinson, Lever, Powell, Tony Gray, Marsh-Evans. Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, McDonald, Knights, Rose, Collins, Montgomery, Foley, Reid. Eilyddion: Garner, Rogers, Odhiambo, Hughes, Fowler. Dyfarnwr: Richard Clark (Gogledd Ddwyrain Lloegr)
 |