BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 18 Rhagfyr 2010

Fleetwood Town 1-1 Casnewydd

Sgoriodd Robbie Matthews yn hwyr yn yr ail hanner i gipio pwynt i Gasnewydd yn erbyn Fleetwood yn Uwch Gynghrair Blue Square.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 20 munud pan adlamodd y bêl yn garedig at draed Magno Vieira yn y cwrt chwech ar ôl arbediad campus gan Glyn Thompson.

Daeth y trawst i achub yr ymwelwyr wedi'r egwyl o ergyd nerthol Nick Rogan, ac yna gwastraffodd Craig Reid gyfle gwych i ddod a'i dîm yn gyfartal wrth i'w gic gosb gael ei harbed gan Scott Davies.

Ond fe wnaeth Reid yn iawn am ei gamgymeriad wrth i'w groesiad isel roi cyfle ar blât i Matthews gyda 15 munud i fynd.


Fleetwood Town: Davies, Beeley, Gregan, McNulty (Thorpe 54), Wright (Brown 46), Barry, Worthington, Milligan, Rogan, Vieira, Seddon.
Eilyddion: Coughlin, McGuire, Rowe.

Cerdyn melyn: McNulty, Thorpe.
Goliau: Vieira 21.

Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Goodall, Rose, Odhiambo, Knights, Collins, Reid (Challinor 90), Deering (Matthews 62).
Eilyddion: Garner, Wright, Smith.

Cerdyn melyn: Warren.
Goliau: Matthews 76.

Torf: 1,142
Dyfarnwr: Robert Merchant (Swydd Stafford).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy