BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Pel Droed

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 06 Tachwedd 2010

Barrow 2-1 Casnewydd

Collodd Casnewydd am yr ail dro yn olynol yn y Gynghrair wrth adael i Barrow daro'n ôl i hawlio'r pwyntiau yn Holker Street.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ychydig cyn y toriad pan beniodd Gary Warren i'r rhwyd o chwe llath o groesiad Danny Rose.

Roedd y gôl yn ddiweddglo teilwng i hanner da o waith i Gasnewydd, a welodd Craig Reid a Charlie Henry yn cadw'r golwr cartref yn brysur.

Gwastraffodd Robbie Matthews gyfle euraidd i ddyblu'r fantais wedi'r toriad, ac fe brofodd hynny'n gostus iawn wrth i Barrow ddeffro o'u trwmgwsg.

Roedd hi'n gyfartal wedi 55 munud pan aeth ergyd isel Jason Walker fynd i gornel y rhwyd.

A sgoriodd Nick Chadwick y gôl fuddugol 15 munud yn ddiweddarach wrth orffen yn gelfydd heibio Glyn Thompson.


Barrow: Masters, Spender, Bolland, Mike Pearson, Edwards,Rutherford, Hulbert, Owen, Goodfellow, Walker, Chadwick.
Eilyddion: Shaun Pearson, Jones, Blundell, Clay, Darikwa.

Cerdyn melyn: Spender, Hulbert, Goodfellow, Bolland, Walker.
Goliau: Walker 55, Chadwick 69.

Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Goodall, Knights (Foley 60), Collins, Rose, Henry (Morgan 81), Reid, Matthews (Wright 61).
Eilyddion: Odhiambo, Garner.

Cerdyn melyn: Warren, Henry.
Goliau: Warren 42.

Torf: 1,089
Dyfarnwr: Colin Harwood (Manceinion).


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy