Yr oedd Charlie Henry wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen wedi pedwar munud yn unig gydag ergyd o du allan i'w cwrt cosbi. Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal saith munud yn ddiweddarach a Dance, gyda neb yn ei farcio, yn sgorio gyda pheniad. Roedd Kettering lawr i ddeg dyn yn yr ail hanner gyda Greg Taylor yn cael ei anfon o'r maes wedi trosedd ar Kerry Morgan. Ac fe fanteisiodd Dance ar amddiffyn llac unwaith yn rhagor gan Gasnewydd gyda'i beniad yn sicrhau'r fuddugoliaeth gydag ugain munud yn weddill.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, John, Odhiambo, Collins, Rose, Henry, Reid, Foley. Eilyddion: Garner, Matthews, Knights, Jon Challinor, Morgan. Kettering: Jack, Graham, Dempster, Davis, Taylor, Noubissie, Boucaud, Dance, Solkhon, Furlong, Marna. Eilyddion: Cooper, Roper, Kelly, Jaszczun, Makofo. Dyfarnwr: C Powell (Swydd Dorset)
 |