Ond fe fydd tîm Dean Holdsworth yn siomedig nad enillwyd y gêm wrth i'r ymwelwyr unioni'r sgôr yn y munud olaf.
Cafwyd dechrau dramatig i'r gêm ar Barc Sbytty. Danfonwyd y capten Gary Warren oddi ar y maes wedi 7 munud yn unig yn dilyn trosedd ar Jamie Taylor yn y cwrt. Rhwydodd Simon Weatherstone o'r smotyn.
Ond cyn hynny roedd Robbie Matthews wedi rhoi Casnewydd ar y blaen yn dilyn gwaith creu Sam Foley.
Ond fe aeth y tîm cartref ar y blaen unwaith yn rhagor wedi 19 munud gyda gôl Jamie Collins.
Dau funud wedi'r egwyl daeth gôl Matt Crabb a'r ymwelwyr yn gyfartal, cyn i Scott Rogers adennill y fantais i 10-dyn Casnewydd a'u rhoi ar y ffordd i fuddugoliaeth annhebygol.
Ond yn y funud ola' tawelwyd y cefnogwyr cartref pan rwydodd Matt Langston i'w gwneud hi'n gyfartal.
Casnewydd : Garner, Odhiambo, Warren, Todd, John, Collins, Rose, Matthews, Knights (Rogers 57), Reid (Clough 82), Foley (Henry 87). Eilyddion: Proctor, Morgan.
Cerdyn coch : Warren (7).
Goliau : Matthews 3, Collins 18, Rogers 80.
Eastbourne Borough: Banks, Austin, Cook (Strevett 85), Langston, Jenkins, Brown (Nathan Crabb 46), Brinkhurst (Baker 90), Matt Crabb, Johnson, Weatherstone, Taylor. Eilyddion: Lightwood, Mambo. Cerdyn melyn : Jenkins, Brinkhurst.
Goliau : Weatherstone 9 (cos), Matt Crabb 47, Langston 90.
Torf : 2,403
Dyfarnwr : Andrew Davies