Roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi tri munud yn unig gyda Jamie Collins yn cael y cyffyrddiad olaf i gic rydd Danny Rose. Fe ddylai Wayne Gray wedi unioni'r sgôr yn fuan wedi'r egwyl ond iddo ergydio heibio'r postyn gyda dim ond y golwr Glynn Thompson i'w guro. Bu gôl Casnewydd o dan warchae yn ystod yr ail hanner ond fe lwyddodd tîm Dean Holdsworth i ddal ymlaen i sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth yn olynol.
Caergrawnt: Brown, Roberts, Coulson, Saah, Partridge, Russell, McAuley (Marriott 71), Carden, Willmott, Wright (Clare 42), Gray. Eilyddion: Naisbitt, Ives, Coakley. Cerdyn melyn: Clare. Casnewydd: Thompson, Bignot, Collins, Warren, John, Henry (Morgan 90), Rose, Odhiambo, Knights (Foley 71), Reid (Rogers 81), Matthews. Eilyddion: Taggart, Garner. Cerdyn melyn: Matthews. Goliau: Collins 3. Torf: 2,648 Dyfarnwr: Simon Long (Suffolk).
 |