| Roedd tîm Dean Saunders yn dechrau llygadu triphwynt ar ôl i ergyd Andy Morrell wyro oddi ar amddiffynnwr i roi Wrecsam ar y blaen cyn yr egwyl. A bu'n rhaid ymwelwyr chwarae'r rhan fwyaf o'r ail hanner gyda 10 dyn wedi i Neil Ashton faglu Charlie Henry yn y cwrt cosbi. Ac er i Craig Reid daro'r trawst o'r smotyn, fe lwyddodd Casnewydd i ymestyn eu rhediad heb golli i chwe gêm. Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Odhiambo, Collins, Rose, Henry (Knights 78), Morgan (Foley 66), Matthews (Taggart 78), Reid. Eilyddion heb eu defnyddio: Garner, Rogers. Goliau: Knights 89. Wrecsam: Shearer, Obeng, Ashton, Sinclair, Blackburn, Harris, Keates, Smith, Gall, Knight-Percival, Morrell (Mangan 74). Eilyddion heb eu defnyddio: Taylor, Brown, Tolley, Walker. Cerdyn coch: Ashton (48). Cerdyn melyn: Knight-Percival, Smith. Goliau: Morrell 23. Torf: 3,206 Dyfarnwr: S Martin (Swydd Staffordshire).
 |