Robbie Matthews sgoriodd y gôl agoriadol wedi 35 munud wrth iddo ganfod cefn y rhwyd gyda chwip o gic rydd. Munud cyn yr egwyl roedd Reid wedi dyblu'r fantais o'r smotyn a hynny wedi i Keith Briggs lawio'r bêl. Ac fe sgoriodd Reid ei gic o'r smotyn yn yr ail hanner wedi i Jack Byrne lorio Matthews yn y cwrt cosbi.
Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Odhiambo, Collins, Rose, Henry, Knights (Morgan 67), Reid (Rogers 75), Matthews (Foley 78). Eilyddion: Garner, Thorne. Goliau: Matthews 35, Reid 44 (c.o.s.), 53 (c.o.s.) Kidderminster: Lewis, Vaughan, Mike Williams, Sharpe (McPhee 22), Briscoe, Shaw (Byrne 46), Hankin, Briggs, Verma (Morris 71), Wright, Marc Williams. Eilyddion: Stevens, Blair. Torf: 2,026 Dyfarnwr: A Bennett
 |