Uchafbwynt ei berfformiad rhagorol oedd ei arbediad o gic gosb Matthew Barnes-Homer gyda chwarter awr i fynd. Aeth Casnewydd ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wedi 26 munud pan rwydodd Charlie Henry o 20 llath. Ond tarodd Luton yn ôl bron yn syth diolch ymdrech Zdenek Kroca. Thompson yn erbyn y tîm cartref oedd hi wedi hynny, ond fe wastraffodd Gary Warren gyfle euraidd i fachu buddugoliaeth hwyr pan beniodd heibio'r postyn o chwe llath. Gorffennodd y tîm cartref y gêm gyda 10 dyn ar ôl i Keith Keane dderbyn ail gerdyn melyn yn y funud olaf.
Luton: Tyler, Gleeson, George Pilkington, Kroca, Fred Murray, Gnakpa (Howells 56), Keane, Besta, Drury, Barnes-Homer (Craddock 79), Gallen (Crow 64). Eilyddion heb eu defnyddio: Newton, Kevin Pilkington. Cerdyn coch: Keane (90). Cerdyn melyn: Keane, Craddock. Goliau: Kroca 31. Casnewydd: Thompson, Bignot, Warren, Todd, Collins, Henry (Knights 78), Rose, Odhiambo, Reid (Rogers 90), Matthews, Morgan (Foley 69). Eilyddion heb eu defnyddio: Thorne, Garner. Cerdyn melyn: Henry. Goliau: Henry 26. Torf: 6,945 Dyfarnwr: Carl Berry (Surrey).
 |