| Daeth unig gôl y gêm wedi pedwar munud yn unig gyda Liam Hatch yn sgorio yng ngêm gyntaf Mark Cooper wrth y llyw. Sgoriodd Hatch gyda pheniad yn dilyn cic rydd Paul Arnison ac fe brofodd hynny yn ddigon i'r tîm ddisgynnodd o Adran Dau'r tymor diwethaf. Yr ymwelwyr fu'n rheoli yn yr ail hanner ac fe wnaeth y golwr Sam Russell sawl arbediad i rwystro Charlie Henry, Jamie Collins a Craig Reid.
Darlington: Russell, Arnison, Miller, Hone, Austin, Terry, Chandler, Gary Smith, Senior (Wright 67), Hatch (Michael Smith 88), Offiong (Moore 62). Eilyddion: Jack, Clarke. Cerdyn melyn: Austin, Wright. Goliau: Hatch 4. Casnewydd: Thompson, Bignot (Knights 89), Warren, Todd, Collins, Henry, Odhiambo, Rogers (Foley 68), Rose, Reid, Matthews (Sole 69). Eilyddion: Garner, Thorne.
Cerdyn melyn: Odhiambo. Torf: 2,597 Dyfarnwr: Scott Duncan
 |