bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
»[an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Morris ar y ffordd i Athens

Tracey Morris

18 Ebrill 2004

Mae merch o Sir Fôn ar y ffordd i'r Gemau Olympaidd wedi iddi ddod y ferch gyntaf o Wledydd Prydain i groesi'r llinell derfyn ym Marathon Llundain ddydd Sul.

Roedd Tracey Morris wedi rhedeg dros Gymru tra'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caergybi, ond heb gymryd y gamp o ddifri unwaith eto tan 18 mis yn ôl.

Llwyddodd Morris, 36, sydd yn rhedeg dros glwb athletau Valley Striders yn Leeds, i dorri dros awr oddi ar ei record bersonol i orffen mewn amser o 2:33:51.

Mae hi bellach wedi ei henwi yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Athens ynghyd â Paula Radcliffe a Liz Yelling.

>Ruto ac Okayon ennill i Kenya

"Mae'n anhygoel, mae fel breuddwyd," meddai Morris, orffennodd yn 10ed yn y ras.

"Bydd rhaid i mi ofyn i fy mos am amser oddi ar y gwaith rwan," chwarddodd.

"Roedd yr amser rhagbrofol yng nghefn fy meddwl pan oeddwn yn dechrau'r ras, ond nid wyf erioed wedi rasio mewn Marathon o'r blaen ac felly nid oeddwn yn siwr beth oeddwn yn gallu gyflawni.

"Nes i ddim penderfynu rasio yn Llundain tan y Nadolig," cyfaddefodd.

"Yr unig dro arall i mi gymryd rhan mewn marathon oedd chwe blynedd yn ôl wrth redeg yn Llundain am hwyl ac er mwyn codi arian at elusen."

"Rwyf wedi bod i Athens o'r blaen gan fod ffrind i mi wedi priodi ac yn byw allan yno, ond bydd yn wych i gael mynd yn ôl ar gyfer y Gemau."





[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy