bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
»[an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Calzaghe'n trechu Ashira

11 Medi 2005

Llwyddodd Joe Calzaghe i amddiffyn ei goron uwch bwysau canol WBO am yr 17ed tro â buddugoliaeth dros Evans Ashira o Kenya.

Roedd ymhell o fod y fuddugoliaeth hawdd i'r Cymro wedi iddo ddioddef anaf i'w law chwith yn y drydedd rownd, gan ei orfodi i ddefnyddio ei law dde am weddill yr ornest.

Er yr ergyd, nid oedd unrhyw fygythiad i'r bocsiwr 33-mlwydd-oed gan Ashira.

Bu rhaid i Calzaghe frwydro'r 12 rownd ond cafodd fuddugoliaeth o 120-108 120-108 120-107.

Dywedodd y Cymro ei fod yn rhwystredig o fod wedi cael anaf mor gynnar yn y gêm.

"Roeddwn yn credu fy mod am ei stopio'n gynnar," meddai'r bocsiwr 33-mlwydd-oed.

"Petai fy llaw chwith ar gael byddwn wedi parhau â'r cyflymder.

"Ond bu rhaid i mi bwnio fy ffordd drwy'r ornest wedi pedwar rownd. Petai fy llaw chwith yn iawn byddwn wedi ei lorio mewn pedair neu bum rownd."

Dywedodd hyrwyddwr Calzaghe, Frank Warren, fod yr ornest ym mis Tachwedd yn erbyn y pencampwr IBF, Jeff Lacy, yn annhebygol o ddigwydd.

"Rwy'n amau'n gryf bydd yn mynd yn ei blaen. Nid yw'n mynd i fod yn barod ar gyfer hynny felly byddwn yn ceisio ei aildrefnu ar gyfer y flwyddyn newydd," meddai Warren.

"Mae'n rhwystredig i Joe ond mae'r pethau yma'n digwydd."



[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy