bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
»[an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Canslo'r rasio yng Nghasgwent

13 Medi 2005

Mae dau cyfarfod rasio ceffylau yng Nghasgwent wedi eu canslo oherwydd pryderon diogelwch.

Daeth rasio i ben yn gynnar ar 3 Medi wedi dau geffyl ddisgyn ar union yr un darn o'r cwrs.

Ac wedi archwiliad gan y Jockey Club daeth i'r amlwg fod darnau o'r gwair wedi dod yn rhydd wedi'r gwreiddiau gael eu bwyta gan bryfaid genwair.

Bydd y tir yn cael ei drin a bydd rasio dros y cloddiau yn dychwelyd i'r cwrs ar 8 Hydref.

Dywedodd rheolwr cyffredinol Casgwent, Simon Lee, ei fod yn cefnogi penderfyniad y Jockey Club.

"Mae'n siomedig dros ben ond dyna'r penderfyniad cywir," meddai.

"Mae'n bwysig fod diogelwch yn dod gyntaf. Roedd clerc y cwrs allan gyda'r tîm archwilio fore Mawrth ac mae'n cytuno gyda'r penderfyniad.

"Mae'n benderfyniad ar y cyd er byddai'r Jockey Club wedi cael y gair olaf, ond rydym yn cefnogi eu penderfyniad."





[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy