bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
[an error occurred while processing this directive]

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
[an error occurred while processing this directive]
»[an error occurred while processing this directive]
Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Rutto'n ennill y marathon

Evans Rutto'n enill Marathon Llundain

18 Ebrill 2004

Llwyddodd y ffefryn, Evans Rutto o Kenya, i ennill Marathon Llundain am y tro cyntaf, er iddo ddioddef codwm wedi llithro yn y glaw.

Gorffennodd Rutto, llwyddodd i osod yr amser cyflymaf am farathon cyntaf yn Chicago llynedd, mewn amser o ddwy awr chwe munud 19 eiliad, wedi iddo dorri'n rhydd wedi 23 milltir.

Sammy Korir, oedd wedi rhedeg yr holl ffordd â Rutto nes cyrraedd yr Embankment, oedd yn ail, gyda pencampwr y byd, Jaouad Gharib yn drydydd.

Jon Brown oedd y gwr cyntaf o Wledydd Prydain i orffen, a roedd ei amser digon da iddo gael ei ddewis ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Margaret OkayoKenya oedd yn fuddugol yn ras y merched hefyd wrth i Margaret Okayo groesi'r llinell ar y blaen wedi brwydr â Constantina Dita o Romania.

Roedd Okayo wedi dechrau'n gyflym ac ymddengys ei bod yn talu'n ddrud wrth i Dida ei phasio wedi 10 milltir.

Ond brwydrodd yn ôl a llwyddodd i fynd yn ôl ar y blaen wedi 20 milltir cyn ymestyn ei mantais ac ennill mewn amser o ddwy awr 22 munud 36 eiliad.

Bachodd Svetlana Zakharova yr ail safle wrth i Dida flino, gyda'r ffefryn, Sun Yingjie ymhellach yn ôl.

Cymraes oedd y oedd y ferch cyntaf o Wledydd Prydain i groesi'r llinell derfyn.

>Morris yn serennu

Llwyddodd Tracey Morris i guro'r amser rhagbrofol ar gyfer Gemau'r Olympaidd o ddwy awr 37 munud, ac o'r herwydd mae disgwyl iddi gael ei chynnwys yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Athens ynghyd â Paula Radcliffe a Liz Yelling.





[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy