Caerdydd 1-0 Crystal Palace

17 Medi 2005
Sgoriodd Michael Ricketts yn eil ail gêm yn olynol wrth i Gaerdydd ennill o 1-0 gartref am yr eilwaith mewn wythnos Caerdydd oedd yn feistri yn gynnar yn yr hanner cyntaf gyda Ricketts yn rhwydo gyda chynnig hawdd yn dilyn camgymeriad gan golwr Palace, Gabor Kiraly. Wedi hynny methodd Cameron Jerome ganfod gefn y rhwyd cyn i Ben Watson ergydio cyfle cyntaf yr ymwelwyr dros y trawst. Gwastraffodd Wayne Andrews a Tom Soares gyfleoedd gwych i Palace yn yr ail hanner a rhediad da diweddar Caerdydd yn parhau.
Caerdydd: Alexander, Weston, Purse, Loovens, Barker, Cooper (Parry 80), Whitley, Ledley, Koumas, Jerome, Ricketts.
Eilyddion: Cox, Ardley, Lee, Margetson.
Crystal Palace: Kiraly, Butterfield, Fitz Hall, Ward, Borrowdale (Hudson 88), Watson, Riihilahti (McAnuff 59), Hughes, Soares, Macken (Andrews 76), Morrison.
Eilyddion: Speroni, Togwell
Dyfarnwr: P Dowd (Swydd Stafford)