Neges destun i ddenu cefnogwyr

16 Medi 2005
Mae Caerdydd wedi gyrru neges destun i 5,000 o aelodau'r clwb yn eu hannog i fynd i'r gêm yn erbyn Crystal Palace ar Barc Ninian ddydd Sadwrn Daw'r ymgais i ddenu mwy yn sgil rhybudd gan berchennog y clwb, Sam Hammam, y gall torfeydd fod yn 'drychinebus' Roedd yr Adar Glas yn siomedig mai dim ond 9,196 oedd yn bresennol ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Caerlyr. Ac mae cyfanswm torfeydd pedair gêm agoriadol y tymor hwn ryw 5,000 yn llai na chyfanswm y llynedd. "Os ydych yn derbyn neges destun peidiwch â chael gwared ohono, gweithredwch a prynwch docyn," meddai datganiad ar wefan y clwb.
"Gwell byth fyddai dod gyda ffrindiau a gwneud diwrnod ohoni."
Dywed Sam Hammam fod angen mwy o gefnogwyr ar Barc Ninian, a hwythau eisoes £30m mewn dyled.
"Mae ei ffigyrau cyllido am y tymor yn seiliedig ar dorfeydd 13,000 ac roeddem yn meddwl bod hynny yn geidwadol," meddai Hammam.
"Os yw'r cyfartaledd y parhau i fod yn isel yna mae'n mynd i fod yn drychinebus.
"Mae pob 1,000 (o dorf) yn werth £350,000 i'r clwb," ychwanegodd.
"Y mwya' mae'r torfeydd yn cynyddu y mwya' grymus gallwn fod yn y farchnad drosglwyddo a'r gorau y gallwn berfformio o flaen ein cefnogwyr."