Caerdydd yn barod i werthu Warner

14 Medi 2005
Mae Caerdydd wedi gwahodd Fulham i brynu'r golwr Tony Warner. Mae Warner ar gyfnod o fenthyg chwe mis gyda chlwb Craven Cottage, gyda Mark Crossley a Jaroslav Drobny yn dioddef â anafiadau. Yn ystod ei gyfnod ar fenthyg gyda Fulham, mae Warner wedi creu argraff ar y rheolwr Chris Coleman. Ac mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones, wedi datgan y byddai'n fodlon i Warner ymuno gyda Fulham yn barhaol. "I gyd sydd angen i Chris Coleman ei wneud yw rhoi galwad i mi er mwyn trafod y mater," meddai Jones.
Dywedodd cyn amddiffynnwr Cymru, Chris Coleman, sydd bellach yn reolwr Fulham, fod perfformiadau Warner wedi ei blesio.
"Mae wedi creu argraff arnaf," meddai Coleman wrth drafod cyfnod Warner ar fenthyg.
"Mae pob siawns y gallai aros gyda ni os yw'n parhau yn yr un modd."