Hartlepool 2-2 Abertawe

17 Medi 2005
Achubodd Antony Sweeney bwynt i Hartlepool yn erbyn Abertawe ar Barc Victoria. Y tîm cartref oedd ar y blaen ar yr egwyl yn dilyn ergyd 25 llath gan Ritchie Humphreys. Nid oedd Abertawe ar y gorau, ond fe ddaethant yn ôl yn yr ail hanner gyda Lee Trundle yn sgorio dwy gôl mewn pum munud, yr ail wedi i'w gic gosb gael ei arbed. Ond sicrhaodd Hartlepool bwynt gyda 15 munud yn weddill - Sweeney gyda pheniad yn dilyn croesiad Michael Maidens.
Hartlepool: Konstantopoulos, Darren Williams, Nelson, Collins, Humphreys, Maidens (Istead 80), Sweeney, Tinkler (Turnbull 63), Butler, Proctor (Foley 63), Daly.
Eilyddion: Provett, Jones.
Abertawe: Gueret, Tate, Monk, Iriekpen, Ricketts, Robinson, Bean, Martinez, McLeod, Connor (Thorpe 15), Trundle, Thorpe (Austin 89).
Eilyddion: Murphy, Goodfellow, MacDonald.
Dyfarnwr: T Leake (Sir Gaerhirfryn)