Angen cadw traed ar y ddaear

14 Medi 2005
Dywed Andy Robinson bod hi'n bwysig fod chwaraewyr Abertawe yn cadw eu traed ar y ddaear ar ôl codi i frig Cynghrair Un. Dwy gôl hwyr gan Robinson yn y fuddugoliaeth dros MK Dons nos Fercher dyma'n gweld y Swans ar ben y gynghrair am y tro cyntaf mewn 13 mlynedd. "Mae'n dangos i'r timau eraill yn y gynghrair nad ydym yn ffôl. Rydym yma i barhau. "Rydym wedi dangos be 'da ni'n gallu gwneud ac mae'n rhaid i ni gadw at y safonnau hynny. Dwi'n siwr y bydd rheolwr yn pwysleisio hynny." Mae Abertawe wedi sgorio 18 gôl mewn pedair buddugoliaeth o'r fron, ac wedi ennill chwech o'u wyth gêm agoriadol y tymor hwn.