bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Damwain angeuol yn Rali Cymru

18 Medi 2005

Bu farw Michael Park, cyd-yrrwr Markko Martin o Estonia wedi damwain yn ystod cymal 15 o Rali Cymru GB ddydd Sul.

Tarodd car Peugeot 307 Martin â choeden yn ystod y cymal 17-milltir ym Margam, Port Talbot gan ladd Park, 39.

Llwyddodd Martin i osgoi unrhyw anaf. Cafodd cymalau olaf y rali eu canslo oherwydd y ddamwain.

Petter Solberg enillodd y rali wedi Sebastien Loeb wrthod cipio coron y byd yn y fath amgylchiadau.

Meddai datganiad gan drefnwyr y rali: "Mae'n ddrwg iawn gennym gadarnhau fod Michael Park wedi ei anafu'n angeuol wedi damwain ar gymal arbennig 15.

"Mae'r teulu wedi eu hysbysu ac mae gyrrwr car rhif wyth, Markko Martin yn ddianaf."

Ni chafodd unrhyw aelod o'r dorf eu hanafu yn ystod y ddamwain.

Roedd Park, oedd yn cael ei adnabod fel 'Beef', yn wyneb cyfarwydd ym myd ralïo ac wedi gweithio â chyn bencampwyr y byd, Richard Burns a Colin McCrae.

Yn briod â phlant, dechreuodd ralio ar gylchdaith pencampwriaeth y byd ym 1994 fel cyd-yrrwr Mark Higgins.

Daeth Park, o Gaerloyw, yn gyd-yrrwr â Martin yn 2000 a roedd y ddau wedi ennill pum cymal o Bencampwriaethau Rali'r Byd gyda'u gilydd.

Dywedodd datganiad ar ran cwmni Peugeot: "Mae Ceir Peugeot a Chwaraeon Peugeot am ddatgan eu tristwch affwysol i deulu Michael Park."

Roedd canslo gweddill y rali ynghyd â'r ffaith i Marcus Gronholm o dîm Peugeot dynnu allan o'r rali wedi marwolaeth Park wedi golygu byddai Loeb o thîm Citroen wedi cipio coron y byd.

Ond nid oedd y Francwr am adennill ei goron yn y fath amgylchiadau a gwnaeth yn siwr ei fod yn cael cosb o ddau funu ar y ffordd yn ôl i Gaerddd ar gyfer y diweddglo swyddogol.

Roedd hynny yn ei adael yn y trydydd safle gyda Solberg o Subaru y ennill a chyda Francois Duval o Citroen yn ail.

Fel arwydd o barch i Mr Park ni chafwyd y dathliadau arferol i gloi'r rali, roedd baneri yn hedfan yn isel a chafwyd munud o dawelwch.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy