Canslo'r rasio yng Nghasgwent

13 Medi 2005
Mae dau cyfarfod rasio ceffylau yng Nghasgwent wedi eu canslo oherwydd pryderon diogelwch. Daeth rasio i ben yn gynnar ar 3 Medi wedi dau geffyl ddisgyn ar union yr un darn o'r cwrs. Ac wedi archwiliad gan y Jockey Club daeth i'r amlwg fod darnau o'r gwair wedi dod yn rhydd wedi'r gwreiddiau gael eu bwyta gan bryfaid genwair. Bydd y tir yn cael ei drin a bydd rasio dros y cloddiau yn dychwelyd i'r cwrs ar 8 Hydref. Dywedodd rheolwr cyffredinol Casgwent, Simon Lee, ei fod yn cefnogi penderfyniad y Jockey Club. "Mae'n siomedig dros ben ond dyna'r penderfyniad cywir," meddai.
"Mae'n bwysig fod diogelwch yn dod gyntaf. Roedd clerc y cwrs allan gyda'r tîm archwilio fore Mawrth ac mae'n cytuno gyda'r penderfyniad.
"Mae'n benderfyniad ar y cyd er byddai'r Jockey Club wedi cael y gair olaf, ond rydym yn cefnogi eu penderfyniad."