BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llais Aeron
Rhai o swyddogion pwyllgor yr henoed CribynTrip Henoed Pentref Cribyn
Hydref 2005
Adroddiad o daith ddirgel henoed pentref Cribyn i Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro dros yr haf.

Gwawriodd bore yr ail ddydd Mawrth o Awst yn braf, ac roedd y to hŷn o fewn y pentref yn brydlon yn cwrdd â'r bws a oedd i'w cludo ar eu gwibdaith blynyddol. Taith ddirgel oedd hon wedi ei pharatoi yn ofalus gan Wyndham a Ronald.

Ar ôl setlo ar y bws profwyd yr hwyl arferol wrth i'r teithwyr ddyfalu lleoliad pen y daith. Er mawr holi a chwestiynu cyfrwys, ni wnaeth y trefnwyr ddatgelu dim o'r cyfrinachau, a rhaid oedd bodloni ar eistedd yn ôl a mwynhau'r siwrnai.

Cyrhaeddwyd Caerfyrddin mewn da bryd i fwynhau cwpanaid o goffi, ac roedd ychydig o amser yn sbâr i'r menywod gael sbecian o amgylch un neu ddwy o'r siopau, gan adael y dynion i fynd eu ffordd eu hunain. Ymlaen wedyn i'r lle bwyta yn 'Red Roses', ble roedd cinio bendigedig yn ein haros.

Gyda'u boliau yn llawn aeth pawb ymlaen ar y daith gan ymweld â Doc Penfro ac Aberdaugleddau. Treuliwyd peth amser yn y ddau le gan fwynhau'r golygfeydd bendigedig. Erbyn hyn roedd yn amser te a throdd trwyn y bws i fewn i Westy Nant-y-Ffin. Derbyniwyd croeso twymgalon, gan y perchennog â'i staff.

Roedd yn bleser gweld y wledd o ddanteithion a baratowyd ar ein cyfer. Gan ddilyn traddodiad Cribyn o orffen y diwrnod gyda sesiwn o ganu, eleni gwnaethpwyd hyn i gyfeiliant nid un ond i ddau biano!!

Teithiwyd adref gyda'r hwyrnos dros fynyddoedd hynafol y Preselau. Barn gyffredinol y criw oedd bod y diwrnod wedi bod yn un pleserus iawn. Diolch i Wyndham, Ronald a Delyth am edrych ar ein holau yn ystod y dydd ac i Bwyllgor Yr Henoed am ofalu eleni eto bod yna drip yn rhad ac am ddim i ni ac yn cynnwys dau bryd da o fwyd.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy