Ar y 17eg o Ionawr, 2009 daeth Alwyn Humphries, yng nghwmni Eleri Lewis i Neuadd y Pentre Talsarn. Pwrpas ei ymweliad oedd i anrhydeddu Ann Sheppard, 22 Maes Aeron oedd wedi cael ei henwebu gan Evana Davies i dderbyn yr anrhydedd Halen y Ddaear. Bu Ann yn gweithio i gwmni Slimma, Llanbed am 23 mlynedd, and bu raid iddi roi'r gorau i'w gwaith i'w galluogi i aros adref i edrych ar ôl ei rhieni yn eu gwaeledd. Wedi colli ei rhieni, aeth i weithio yn y ffatri gaws yn Felin-fach, ac wedi i'r gwaith hynny ddod i ben, mae wedi helpu llawer yn y pentre yn Nhalsarn a chyda Clwb y Deillion a threfnu nosweithiau Canu Glwlad. 'Does dim yn ormod iddi ei wneud, mae'n berson hynod o weithgar. Erbyn hyn mae'n gweithio'n rhan amser yn gofalu am berson anabl sydd hefyd yn berson rhannol ddall. Dymuna Ann ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â'r prynhawn arbennig, yn enwedig Evana a oedd wedi ei henwebu, ac i'r teulu a'r ffrindiau i gyd. Mae'n gwerthfawrogi'r plant hardd a'r tusw blodau hyfryd a dderbyniodd. Diolch hefyd i bawb sydd wedi ffonio ac am y cardiau i longyfarch.
 |