Gan ddechrau o ddim, creodd y plant stori am grwt yn gadael ei gartref clyd yn Aberaeron ac yn hwylio'r moroedd mawr i wneud ei ffortiwn. Ond, fel gymaint o fechgyn ifanc y dre a'i chyffiniau, dychwelyd i Aberaeron (ac at ei gariad) yw ei fri. Perfformiwyd y faled yn sioe'r ysgol yn Neuadd Goffa'r dre (Gorffennaf 4 a 5) fel cyfraniad yr ysgol at ddathliadau Aberaeron 2007. Mae'r faled yn tynnu ar wybodaeth a gasglwyd gan Brosiect Hanes Llafar Aberaeron 2007, a oedd hefyd yn gyfrifol am drefnu ymweliad Mererid â'r ysgol. O fewn yr un prosiect cynhaliwyd gweithdai dawns gan Catherine Young - yn seiliedig ar hanes y Mwrthwl Mawr, sef yr hyn a ddefnyddiau 'Dafis y Gof' i greu rhaw enwog Aberaeron. Baled Ianto Glan yr Afon Mae'n fore oer o wanwyn
a Ianto'n dechrau ar ei daith
i chwilio am ei ffortiwn
ym mhen draw'r milltiroedd maith.
Mae calon Mari'n crio
a mam yn ddagrau i gyd
mae Ianto wedi dechrau
ar ei daith i ben draw'r byd.
Ffarwel i ti 'Snowdonia'
ffarwel i ti 'Madras'
Mae Ianto'n gadael cartref
A'r wawr yn torri'n las.
Mynd heibio ar yr heol
I 'Gambia' a 'Denver' draw
Mynd heibio i 'Fanceinion'
Mae Ianto'n codi llaw.
Mae'n cyrraedd glan yr harbwr
a'r hwyliau yn llawn haul,
ond ar y coed bach tawel
mae dagrau yn y dail.
Mae pawb yn chwifio hances
a phawb yn gwisgo gwên;
mae antur Ianto'n newydd,
ond mae'r stori hon yn hen.
Un bachgen bach yn gadael
Y fferm ar ben y bryn, A chwilio am freuddwyd fory a'r fory hwnnw'n wyn.
Mae'r môr fel llyn yn llonydd A mas mae'r Aeron Belle, yn galw ar Ianto i frysio, ac mae Ianto'n sibrwd 'ffarwel'.
Mae'r llong yn dechrau llifo yn araf ar wyneb y lli a Mari fach yn gwylio diflaniad ei chariad hi.
Mae'r tonau'n llyncu Ianto
Tua'r gorwel yn ei dynnu 'mhell
gan adael Aberaeron
i chwilio am fory gwell.
Ond ar ôl pedwar niwrnod Mae'r glaw yn dyrnu'n drwm
a storm yn stori arswyd -
yn lleidr sy'n dwgyd Twm.
Twm oedd ffrind bach Ianto Twm y morwr cryf Twm yn cysgu'n dawel ar wely oer y llif.
Ac yna un bore distaw mae Ianto yn gweld y tir ac yn ei galon mae cwestiwn a ddaw fy mreuddwyd yn wir?
A gâf i wlad o ffortiwn? A gâf i le i fyw? A gâf i Mari'n gwmni ryw ddydd, rwy'n gofyn, O Dduw?
Er peintio'r stryd yn lliwgar er enwi'r dre'n Gymraeg mae hiraeth yng nghalon Ianto hiraeth am gael Mari'n wraig.
Ac ildio a wnaeth Ianto ildio yn fachgen tlawd ildio am nad oedd ganddo na mam na chwaer na brawd.
Ac yn leinin dwfn ei wasgod mae darn o arian mân a gyda hwn mae'n prynu tocyn i fynd adre bob cam.
Ac adre'n Aberaeron mae Mari'n sâl ei gwedd; mae Mari bron a marw o hiraeth lond y bedd.
Ac yna, yn diwrnod Daw cnoc ar ddrws ei thŷ^, A Ianto yna'n sefyll - Ianto ei chariad hi.
Ianto heb un geiniog, Ianto heb eiddo'n y byd, Ianto ym mreichiau Mari Ianto yn gyfoeth i gyd.
Mwy o AberaeronAberaeron yn dathlu 200
 |