
02 Tachwedd 2010
Mae ymhell dros 300,000 o bobl yn gofalu am eraill yn wirfoddol yng Nghymru, naill ai'n edrych ar ôl teulu agos neu bobl eraill 1.
Gofalwyr di-dâl, yn ôl ymchwil, sy'n darparu tua 70% o'r gofal yn y gymuned - hynny yw, teulu, ffrindiau a chymdogion yn edrych ar ôl eraill. Amcangyfrif fod tua 90,000 o bobl yng Nghymru yn gwneud dros 50 awr yr wythnos o ofalu fel hyn 2.
Yn aml, mae gofalu nid yn unig yn golygu glanhau, coginio a helpu eraill i ymolchi neu fynd i'r tŷ bach, ond rhoi cefnogaeth emosiynol a seicolegol i bobl mewn angen.
Mae yna gyfran o ofalwyr yn bobl ifanc hefyd, ac angen cefnogaeth eu hunain wrth gymryd cyfrifoldebau mawr dros bobl sy'n sâl, yn anabl, gyda phroblemau meddyliol, yn yfed gormod neu'n cymryd cyffuriau 3.
Mae mwy o gydnabyddiaeth yn cael ei roi i'r cyfraniad mae gofalwyr yn ei wneud erbyn hyn, nid yn unig trwy leihau poen a helpu eraill ond drwy arbed costau mawr i'r wlad - rhai biliynau o bunnoedd 4. Er hynny, mae llawer o ofalwyr yn teimlo'n ynysig ac yn dioddef o galedi ariannol oherwydd eu haberth.
Os ydych chi'n un o'r pobl sy'n gwneud hyn, mae yna ddolenni defnyddiol yma a gwybodaeth am fudiadau i'ch cefnogi chi.
Ffeithiau sydyn
- Mae yna lawer iawn o bobl yn edrych ar ôl eraill yn ddi-dâl yng Nghymru - cyfraniad sydd â gwerth sylweddol yn nhermau arbed costau i'r wladwriaeth.
- Ceir nifer sylweddol o bobl ifanc sy'n gofalu am eraill.
Cysylltiadau
Cynhalwyr Cymru
Cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru. Gallwch gysylltu â nhw am unrhyw bwnc i wneud ag edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol iwybodaeth am wasanaethau lleol.
0808 808 7777
www.carerswales.org
Croesffyrdd Cymru
Cymorth ymarferol i ofalwyr ar draws Cymru drwy eu helpu i gael seibiant, hyd yn oed os yw am ychydig o oriau. Mae manylion eich cynllun lleol ar gael ar y wefan.
0845 450 0350
www.crossroads.org.uk
Cyswllt Teulu Cymru
Cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd â phlant anabl.
0808 808 3555
www.cafamily.org.uk
The Princess Royal Trust for Carers
Elusen sy'n cynnig cefnogaeth i ofalwyr gyda chanolfannau ar gael ar draws Prydain, a gwasanaeth neilltuol i bobl ifanc hefyd.
www.carers.org
www.youngcarers.net
Young Carer's Network
Manylion rhwydwaith ar draws Gymru i helpu gofalwyr ifanc, gyda prosiectau cefnogol lleol ar gael. Dan ofal Plant yng Nghymru.
www.childreninwales.org.uk/6300.html
1 Ffynhonnell: http://wales.gov.uk/dhss/publications/socialcare/
carers/carers_strategy-w.pdf?lang=cym
2 Ffynhonnell: http://www.carerswales.org/Aboutus/AboutCarersWales/
copy_of_TenfactsaboutcaringinWales
3 Ffynhonnell: http://www.childcom.org.uk/uploads/publications/138.pdf
4 Ffynhonnell: http://www.carersuk.org/Professionals/ResearchLibrary/
Profileofcaring/1201108437/main_content/ValuingcarersFINAL.pdf
Mwy
Gofal
Gwybodaeth am fudiadau sydd ar gael i gefnogi'r miloedd o bobl yng Nghymru sy'n gofalu am deulu neu bobl eraill yn wirfoddol. This is a page in Welsh about the support available to the thousands of people in Wales who care for family or other people in a voluntary capacity.

