
23 Ebrill 2010
Yn aml, daw'r broblem o fwlio i'r amlwg mewn newidiadau negyddol yn ymddygiad plentyn neu berson ifanc, gan gynnwys gwrthod mynd i'r ysgol, cogio bod yn sâl, 'colli' eiddo, neu hyd yn oed triwantiaeth.
Mae bwlio yn broblem fawr nid yn unig i'r plentyn sy'n dioddef o'i herwydd, ond hefyd i rieni neu ofalwyr wrth iddynt ymdopi gyda'r effaith mae'n ei gael.
Gall bwlio ddigwydd mewn sawl ffordd. Yn gorfforol, gall ddigwydd drwy daro a bygythiadau, neu drwy gymryd a malu eiddo. Ceir bwlio geiriol ac emosiynol hefyd, yn aml drwy alw enwau cas neu droi eraill yn erbyn plentyn, rhywbeth sy'n gallu bod llawn mor boenus i'r dioddefwr ag unrhyw niwed corfforol.
Mae'n digwydd i blant a phobl ifanc o bob oed, a gall ddigwydd drwy sawl cyfrwng erbyn hyn: dros y ffôn, drwy decst, trwy e-bost neu yn ddiweddar, trwy wefannau a rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein.
Tydi hi ddim o hyd yn beth hawdd adnabod yr arwyddion fod bwlio'n digwydd. Gallent gael eu methu gan y rhieni gartref neu'r athrawon prysur sy'n gorfod delio gyda bwrlwm dyddiol yr ysgol. Mae'n ofynnol i ysgolion gael strategaeth glir i daclo'r broblem, fel rhan o'u goblygiadau bugeilio. Yn y bôn, er mwyn rhwystro niwed pellach i'r sawl sy'n cael eu bwlio mae'n rhaid hefyd cael syniad clir pam fod y bwlio'n digwydd. Trwy geisio deall pam fod y bwli yn gwneud beth mae o neu hi'n wneud, mae'n haws taclo'r broblem. Ar yr un pryd, mae'n bwysig egluro i bob plentyn nad oes gan neb yr hawl i'w brifo neu wneud iddynt deimlo'n ddrwg drwy fwlio, a bod yna ffyrdd allan o'r sefyllfa ar gael.
Ceir dipyn o ymchwil diweddar 1 hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rôl y rhai sy'n dystion i fwlio, ac weithiau'n dewis gwneud dim. Mae cylch cyfoedion sydd yn ymwybodol o beth yn union yw bwlio yn llawer llai tebygol o ganiatáu iddo ddigwydd, felly mae addysgu pobl ifanc am sut mae'n digwydd yn bwysig iawn. Yn yr un modd, mae hyfforddiant gwell i athrawon a strategaeth gref gan yr ysgol yn hanfodol.
Yn ffodus, erbyn hyn mae yna lu o adnoddau ar gael yn cynnig cymorth a chyngor safonol. Yn aml mae'r rhain hefyd ar gael dros y ffôn neu ar y we. Mae gan dipyn o'r mudiadau sy'n anelu gwybodaeth at blant yn uniongyrchol fel arfer gydag adnoddau ar wahân i rieni a gofalwyr.
Ffeithiau sydyn
- Mae arwyddion bwlio'n cael eu methu weithiau, ond mae pethau fel gwrthod mynd i'r ysgol, cogio bod yn sâl, 'colli' eiddo, hyd yn oed dechrau bwlio brodyr neu chwiorydd eu hunain, yn gallu awgrymu fod yna fwlio'n mynd ymlaen.
- Fel rhiant neu ofalwr, mae'n bwysig peidio â chynhyrfu os ydych yn darganfod fod bwlio'n digwydd. Rhaid cysuro plentyn nad eu bai nhw ydi'r sefyllfa, a'u hannog i siarad am eu teimladau. Gellir cadw cofnod o unrhyw ddigwyddiadau fel tystiolaeth i'r ysgol.
- Trefnwch i gael gair gyda'r ysgol os mai dyna ble mae'n digwydd. Cadwch gofnod o unrhyw gyfarfodydd. Mae'n syniad da gadael i'r plentyn wybod yn union beth sy'n digwydd a chael eu cytundeb i beth ydych am ei wneud.
Cysylltiadau
Parentline Plus
Llinell cymorth 24 awr sy'n cael ei staffio gan rieni, ar gyfer pwy bynnag sy'n edrych ar ôl plentyn mewn rôl rhiant. Cefnogaeth a gwybodaeth ar ystod o bynciau, gan gynnwys bwlio, ymddygiad, trais rhywiol, addysg, alcohol a chyffuriau.
0808 800 2222
www.parentlineplus.org.uk
Kidscape
Llinell gymorth i oedolion sydd angen cyngor ar sut i ddelio gyda bwlio. Mae'r wefan, hefyd i blant a phobl ifanc, yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i gadw'n saff.
08451 205 204
www.kidscape.org.uk
CHIPS/NSPCC Cymru
Mae Childline Cymru yn llinell gymorth wedi ei anelu at blant yn unig, ond maent hefyd yn rhannol gyfrifol am 'CHIPS' (Childline In Partnership with Schools), sy'n rhedeg gweithdai am fwlio mewn ysgolion. Mae Childline yn rhan o NSPCC Cymru, a fedrwch gael mwy o fanylion nid yn unig am y cynllun hwn ond am ffynonellau eraill o gymorth ganddyn nhw.
0808 100 2524
www.nspcc.org.uk
Bullies Out
Elusen Gymreig sy'n darparu gwybodaeth ddwyieithog am fwlio i blant ac oedolion, gan gynnwys fforwm cymorth ar-lein.
www.bulliesout.com
Bullying UK
Gwybodaeth a chyngor ar fwlio, gan gynnwys strategaethau i ysgolion a help i unigolion.
www.bullying.co.uk
ACE - Advisory Centre for Education
Mae ACE yn rhoi cyngor ar bob agwedd o addysg 5-16 oed gan y wladwriaeth yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys bwlio, gwaharddiadau ysgol, anghenion arbennig ac apelion ysgol. Mae ganddynt bamffled da ar daclo bwlio, sydd ar gael fel taflen pdf.
0808 800 5793
www.ace-ed.org.uk
Bully Free Zone
Gwefan gydag adnoddau i blant, rieni ac athrawon.
www.bullyfreezone.co.uk
EachAction
Help i'r rhai sydd wedi cael eu bwlio oherwydd eu rhywioldeb.
0808 1000 143
www.eachaction.org.uk
YoungMinds
Mae YoungMinds yn llinell gymorth sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un gyda phryderon am iechyd meddwl person ifanc - os ydynt yn cael eu bwlio, er enghraifft. Manylion gwasanaethau cenedlaethol a lleol ar gael.
0808 882 5544
www.youngminds.org.uk
Mwy
Bwlio plant
Sut i adnabod bwlio corfforol, geiriol neu emosiynol mewn plant a beth i'w wneud os yw'ch plentyn chi'n dioddef. This is a page in Welsh about recognising the signs of bullying in children and what to do if your child is being bullied.

