Tafarnau ac enwau lleoedd

top
Arwydd tafarn ym Mhwllheli

Rwy'n cofio rhywun yn gofyn am frachdan gaws mewn tafarn yn Nulyn flynyddoedd yn ôl. Yr ateb digon sarrug a gafodd oedd:

'This is a place for drinking. You eat at home.'

Wel, roedd gartra braidd yn bell i fynd yno am frachdan bryd hynny, ac mae'n siwr mai swper gwlyb gafwyd y noson honno. Mae tafarnau Dulyn wedi newid dipyn ers hynny wrth gwrs, ac yn fwy eang eu croeso o beth coblyn. Ond mae'r stori fach honno yn darlunio'r gwahaniaeth rhwng tñ tafarn mewn tref, sef lle yfed, a thafarn wledig draddodiadol - lle am fwyd a diod i deithwyr, a llety hefyd yn aml iawn.

Tafarnau i deithwyr

Tafarnau i deithwyr oedd y rhan fwyaf o hen dai potas pentrefi a threfi cefn gwlad Cymru. Byddai llwybrau'r teithwyr yn eu harwain drwy fylchau ac at ryd neu bont dros afon. Ffermdy yw Pen-y-bont, Ysbyty Ifan erbyn hyn - ond roedd yn dafarn, yn agor ei drysau i borthmyn a theithwyr dros y Migneint hyd yn eithaf diweddar. Hysbyseb i ddenu porthmyn i dafarn Pen-y-bont oedd y rhigwm yma:

Rôl dringo'r Llech a Charreg-y-frân,
Ffast anian o Ffestiniog;
Disgynnwch yma at Sarah Llwyd:
Cewch ganddi fwyd amaethlyn.

Mewn sawl achos, tyfodd pentrefan, yna pentref ac weithiau dref o gwmpas y tŷ ar 'ben y bont' a cheir pentrefi'n dwyn yr enw hwnnw ym Maesyfed, Maldwyn a Fflint.

Hen arfer i ddangos croeso i dŷ tafarn oedd plannu coeden fythwyrdd wrth y drws. Tafarnau ydi Llwyndafydd (Ceredigion), Llwyncelyn (Gwent) a Tafarngelyn (sir Ddinbych) sy'n dwyn yr arfer hwnnw i gof - ac yn y ddau achos aeth enw'r dafarn yn enw ar y pentrefi a dyfodd o'u cwmpas. Yn y dafarn a roddodd ei enw i Dafarnyfedw ger Llanrwst, byddai ysgub o wiail bedw yn crogi uwch y drws - pan fyddai ar i lawr, byddai'r dafarn yn agored a phan fyddai ar ei gwastad, byddai'r dafarn ynghau.

Croesffyrdd

Lleoliad cyfleus arall i dafarnau fyddai croesffordd. Tyfodd pentref o amgylch rhai o'r tafarnau hynny hefyd gan gario enw'r dafarn fel Cross Inn (Ceredigion). Mae'n ddigon posib bod y dafarn wedi cymryd enw'r groes a welid ar groesffordd yn aml - mae hynny'n amlwg iawn yn achos Tafarn y Groes, Dyffryn Conwy gan fod enw llawn y groes wedi'i chadw yn enw'r pentref: Y Groesynyd.

Ym mhentref Y Ffôr, Llŷn, adeiladwyd ffordd newydd i ddenu'r Goets Fawr o Borthmadog i Borth Dinllaen a symudwyd calon y pentref o Rydygwystl ar lan yr afon i'r groesffordd newydd. Codwyd tafarn hwylus ar y groesffordd a'i galw'n Fourcrosses - a mabwysiadwyd hwnnw (a'i Gymreigio yn y man) yn enw ar y pentref newydd.

Tystiolaeth o ba mor hen yw'r traddodiad o groesawu teithwyr i dafarnau yw bod olion o'r enw Lladin, hospitium - 'ty croesawu' - mewn rhai lleoedd yng Nghymru. Mae Ysbyty Ifan yn enghraifft amlwg o hyn, lle rhoddwyd tir i farchogion Urdd Sant Ioan i sefydlu'r 'ysbyty'.

Credid ar un adeg bod Tafarnspite yng Ngheredigion a Spite Inn yng Nghwalchmai yn tarddu o'r un enw ond mae amheuaeth wedi codi am hyn. Mae'n fwy tebygol mai tafarnau a agorwyd i 'sbeitio' tafarn arall oedd rhain.

Pentrefi diwydiannol a dyfodd yn sydyn mewn cymoedd lle nad oedd dim byd ond tafarn yn flaenorol yw rhai o'r enwau a geir yng nghymoedd de Cymru. Ar adegau cymerwyd enw'r dafarn fel yr enw Saesneg er bod enw Cymraeg lleol ar gael eisoes - Cross Keys, Nelson, Seven Sisters (Blaendulais) a Mountain Ash (Aberpennar).

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.