Beth sy' mewn enw?

top
Stesion Trenau Abertawe

Cyflwyniad byr i enwau lleoedd Cymru gan yr Athro Hywel Wyn Owen, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd Prifysgol Cymru Bangor.

'What's in a name? that which we call a rose
By any other name would smell as sweet'.

Nid yw'r enw ei hun, mae'n debyg, o bwys mawr. Ond nid enwau lleoedd oedd ym meddwl Shakespeare, nage?

Yn sicr ddim! Gall enw lle ysgwyddo canrifoedd o hanes, gall ddweud wrthym sut le oedd y tirlun fileniwm yn ôl, gall ddatgelu nodweddion am iaith sydd wedi hen ddiflannu.

Swansea

Beth am gymryd Swansea fel enghraifft? Mae ger y môr ac mae tîm pêl droed y Swans yn chwarae yno. Beth allai fod yn haws na Swansea? Fodd bynnag, edrychwch ar y dystiolaeth ddogfennol gyntaf am yr enw Swansea ac fe fyddwch nôl rhwng y 10fed a'r 12fed ganrif. Mae'r dystiolaeth yn nodi cyrchoedd gan y Llychlynwyr (fwy na thebyg o Iwerddon) ar hyd arfordir Cymru ac yn sicr roedd anheddau yno hefyd, achos fe fathwyd darn arian tua 1140 gyda'r enw Swensi, gan awgrymu o leiaf rhyw fath o ganolfan fasnachol.

Ond beth yw ystyr yr enw Swansea? Elfen gyntaf y gair yw enw personol Sgandinafaidd Sveinn a'r ail elfen yw'r enw Llychlynnaidd ey sy'n golygu 'ynys'. Dyma'r elfen a welir ar ddiwedd nifer o enwau arfordirol Cymreig megis Anglesey, Bardsey, Ramsey a Caldy.

Ble mae'r ynys yna yn Abertawe heddiw? Mae haneswyr wedi awgrymu ei bod rhywle yn aber y Tawe, ac yn dal yno ganrifoedd yn ddiweddarach (oherwydd y cyfeiriadau at Iland 1400, Iselond 1432 a Island 1641) ond wedi ei thynnu oddi yno yn ystod adeiladu'r dociau yn y 19eg ganrif.

Abertawe

A'r enw Cymraeg am Swansea, Abertawe? Mae'r elfen gyntaf aber yn ymddangos yn aml yng Nghymru a'i ystyr wrth gwrs yw ceg afon neu aber.

Yr ail elfen yw enw'r afon Tawe, sy'n perthyn i grŵp o enwau afonydd Celtaidd ac Ewropeaidd sy'n golygu rhywbeth tebyg i 'llif' (er y credid unwaith mai 'tywyll' oedd ei ystyr). Yn y grŵp yna y mae, er enghraifft, yr afonydd Team, Tame, Thames a Taf. Sylwer mai Tamion oedd yr enw a roddwyd gan y Rhufeiniaid i'w caer yng Nghaerdydd. Onid yw'n ddiddorol bod Caerdydd, Abertawe a Llundain ar afonydd gyda'r un tarddiad ieithyddol?

Dehongli enwau lleoedd

Beth a ddysgwyd drwy edrych ar enwau un lle yn unig? Mae'n sicr yn dangos bod dehongli enwau lleoedd yn dibynnu'n helaeth ar dystiolaeth ddogfennol ac nid ar briodoli ystyr mewn anwybodaeth ar sail y ffurf fodern.

Mae enwau lleoedd wedi ein cysylltu â Llychlynnwr. Rydym wedi dysgu gair Llychlynnaidd, elfen dopograffaidd y gallwn ei berthnasu â llefydd eraill yng Nghymru, a'i ddefnyddio i adeiladu darlun o gyrchoedd, anheddu ac ymfudo dros fileniwm yn ôl. Dyma dystiolaeth o nodwedd arfordirol oedd mewn bodolaeth hyd nes i ddatblygiad diwydiannol newid yr arfordir. Gallwn fynd yn ôl i hen, hen enw ar afon mewn bodolaeth flynyddoedd cyn cofnodi hanes. Beth sy' mewn enw? Llawer iawn!

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.