Dylanwad diwydiant ac amaeth ar enwau lleoedd

top
Glo

Mae gweithgarwch diwydiannol wedi gadael ei ôl ar enwau lleoedd yng Nghymru fel sawl gwlad arall. Gallwn ni ddysgu llawer am hanes pobl a'r hyn oedden nhw'n arfer gwneud wrth edrych ar enwau pentrefi a threfi.

Gweithgarwch diwydiannol

Mae llawer enw'n disgrifio'r math o ddiwydiant, er enghraifft porthladd, melin, gefail y gof, pandy (ar gyfer trin defnydd), a ffwrnais.

Felly mae Porthmadog wedi'i enwi ar ôl Mr Maddocks a sefydlodd y porthladd, a Port Dinorwic yn cyfeirio at y chwarel oedd yn defnyddio'r porthladd i allforio ei llechi. Enw arall ar Port Dinorwic yw'r Felinheli. Mae hwn yn mynd â ni yn ôl at draddodiad diwydiannol hŷn pan oedd grym y llanw a'r trai yn cael ei ddefnyddio i droi olwyn ddŵr, yn wahanol i'r melinau mwy cyffredin ar lan nentydd.

Mae pentref Ffwrnais rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn ein hatgoffa o'r adeg pan oedd haearn yn cael ei doddi yno, ac mae Tonyrefail a Thonypandy, y ddau ohonynt ym Morgannwg, yn ein hatgoffa o waith y gof a'r triniwr defnydd, gyda'r elfen ton yn cyfeirio at dir heb ei aredig.

Mae enwau eraill yn cyfeirio at dynnu mwynau o'r ddaear. Mae'r elfen mwyn ei hun i'w gweld yn Pant-y-mwyn a Rhyd-y-mwyn yn hen ardaloedd plwm Sir y Fflint, Mwynglawdd (sef Minera) ger Wrecsam, ac efallai'r Rhandir-mwyn yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r enw Rasau ym Mlaenau Gwent yn dod o'r gair Saesneg race - cyfeiriad at y sianelau dŵr a ddefnyddid i olchi mwyn ar ôl ei gloddio.

Mae'r elfen glo neu coal i'w cael, fel y gellid disgwyl, mewn lleoedd fel Nant-y-glo neu Coalbrookdale, ond rhaid gofalu mai'r mwyn yw'r ystyr gan fod glo yn yr hen ddyddiau hefyd yn golygu golosg, neu siarcol. Ni fu erioed lo yng Nghwm-y-glo gerllaw Caernarfon, ond o bosibl bu dynion yn gwneud siarcol o'r coed lleol yno rywdro.

Enwau a ddaeth o berchnogion tir a gweithfeydd

Sefydlwyd nifer helaeth o bentrefi a threfi newydd yng Nghymru yn sgil y chwyldro diwydiannol, yn enwedig yng nghymoedd y de-ddwyrain. Roedd angen enwau newydd ar yr holl lefydd hyn, ac un o'r ffyrdd hawsaf o enwi lle oedd defnyddio enwau'r bobl sefydlodd y lle, neu berchnogion y tir neu'r gwaith cyfagos.

Mae enwau Cymraeg (gyda'r elfen tref o flaen enw'r unigolyn) a Saesneg (gyda'r elfen town ar ôl enw'r unigolyn) wedi'u llunio yn ôl y patrwm hwn, yn aml yn yr un ardal. Y mae Butetown, Hopkinstown, Williamstown, Treharris a Trealaw i gyd ym Morgannwg.

Roedd yn gyfle i ambell i un gael ei anfarwoli: gwerthodd John Bury dir i'w ddatblygu yn ymyl Rhosllannerchrugog, ar yr amod y byddai'n cael ei alw'n Johnstown ar ei ôl!

Mewn rhai achosion, disodlodd yr enwau newydd hyn enwau cynharach, fel yn achos Tylorstown yn y Rhondda. Enwyd y dref ar ôl Alfred Tylor, sefydlydd y lofa gyntaf yno, ond cadwyd yr hen enw Cymraeg, Pendyrus, ar y fferm lle yr oedd y pwll cyntaf wedi cael ei agor, ac yn enw'r côr lleol.

Enwyd Trefor yng Ngwynedd ar ôl Trevor Jones, ffigur o bwys yn y chwarel lithfaen leol ganol y 19eg ganrif. Yr Hendre oedd yr enw blaenorol ar y lle.

Gyda threigl amser, mae ystyr rhai enwau'n cael eu hanghofio, a'r enwau yn cael eu camddehongli. Gant a hanner o flynyddoedd yn ôl agorodd dyn o'r enw Josiah Catherall bwll glo ger yr Wyddgrug, o'r enw Glofa Argoed. Daeth hwn i gael ei adnabod fel Pentre Catherall, ond ymhen amser, anghofiwyd am Mr Catherall ac aethpwyd i'w alw yn Pentre Cythrel, ac o hynny yn Bentre'r Gŵr Drwg. Ar y cyfan fodd bynnag, mae enwau lleoedd yn arweiniad da iawn i hanes amaethyddol a diwydiannol y gwahanol gymdogaethau.

Twristiaeth ac enwau lleoedd

Mae twf rheilffyrdd a'r diwydiant twristiaeth hefyd wedi gadael eu hôl ar enwau lleoedd Cymru. Dechreuwyd ychwanegu Bay (a'r cyfieithiad Cymraeg Bae) i ddynodi trefi glan môr a oedd yn gobeithio denu ymwelwyr (Colwyn Bay a Bae Colwyn), neu'r elfennau 'on sea' i bwysleisio eu bod ar lan y môr, fel yn Rhos-on-Sea.

Yn yr un modd ychwanegwyd Wells at enwau trefi a oedd yn ceisio apelio at bobl i fwynhau'r dŵr iachusol a geid yno, fel yn Llandrindod Wells, Llangamarch Wells a Llanwrtyd Wells, yn dilyn patrwm trefi fel Royal Tunbridge Wells yn Lloegr.

Gweithgarwch amaethyddol

Mae gweithgarwch amaethyddol wedi gadael ei ôl ar y tir ac ar enwau lleoedd yng Nghymru hefyd. Hen enwau o fyd amaeth yw maerdref, Maerdy, maenol a'r faenor. Mae'n nhw'n mynd â ni nôl at yr amser pan fyddai taeogion, neu ddynion caeth, yn gweithio'r tir i ddarparu bwyd ar gyfer y brenin a'i lys. Enw'r swyddog oedd yn edrych ar ôl y taeogion oedd 'maer y biswail', a dyna'r maer sydd yn yr enwau hyn.

Yr oedd tref yn golygu fferm (nid sefydliad mwy o faint na phentref), felly maerdref oedd 'fferm y maer'. Maerdy oedd y lle roedd y tŷ lle roedd y maer yn byw, un tipyn mwy crand na thai'r taeogion mae'n rhaid.

Mae Maerdy yn y Rhondda yn enghraifft o bentref sydd wedi cadw'r enw hwn. Grŵp o ffermydd taeogion oedd y faenol (yn y Gogledd) neu'r faenor (yn y De). Gwelir yr enw hwn o hyd yn Stad y Faenol rhwng Caernarfon a Bangor, ac yn y Faenor ger Merthyr Tudful.

Mae'r elfennau hendref a hafod hefyd yn ein hatgoffa am hen ffordd o ffermio. Yr hendref oedd cartref sefydlog y tylwyth lle byddid yn treulio'r gaeaf, ond yn ystod yr haf byddai'r anifeiliaid yn cael eu symud i dir pori yn yr ucheldiroedd, neu'r hafod, i ryddhau'r tir gorau ar gyfer tyfu cnydau. Gyda'r galw am fwy o dir ffermio wrth i'r boblogaeth dyfu, datblygodd rhai o'r hafotai yn ffermydd lle roedd pobl yn byw drwy'r flwyddyn.

Mae Hendref a Hafod yn enwau ar lawer o ffermydd heddiw, ar eu pen eu hun neu gydag elfen arall sy'n medru bod yn enw'r teulu (fel yn Hendreforgan wrth y Gilfach Goch) neu gydag elfennau eraill fel yn Hafoty, neu ddisgrifiad pellach i'w gwahaniaethu oddi wrth ei gilydd, fel ffermydd Hendre Fychan a Hendre Eirian gerllaw Harlech.

Mae lluest (lle byw i fugeiliaid yn yr haf), Bugeildy 'tŷ'r bugail', ffridd 'porfa fynyddig ar gyfer defaid', corlan, ffald a lloc 'lleoedd ar gyfer cadw defaid' i gyd yn ein hatgoffa mor bwysig oedd magu defaid yn yr hen amser ac i'w cael mewn llawer o enwau lleoedd o hyd.

Bugeildy oedd y ffurf wreiddiol ar Beguildy yn sir Faesyfed, ac mae pentref Lloc i'w gael o hyd yn ymyl Treffynnon. Mae enwau eraill yn ymwneud â chadw gwartheg a moch, fel y beudy a geir yn Llanboidy yn Sir Benfro (Nantboidy yn wreiddiol) a Landshipping yn yr un sir (o 'long shippen', sef beudy hir).

Ceir o leiaf ddau Fochdre yng Nghymru, y naill yn ymyl Bae Colwyn a'r llall yn agos i'r Drenewydd, yn awgrymu iddynt fod yn ffermydd moch ar un adeg. Fodd bynnag, rhaid bod yn ofalus cyn meddwl mai anifeiliaid yw'r moch mewn enwau lleoedd o hyd, gan fod moch hefyd yn golygu dŵr yn llifo'n gyflym mewn Cymraeg cynnar, ac mae'n debyg mai dyna ystyr moch mewn enwau lleoedd fel Llanrhaeadr ym Mochnant.

Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.


Geiriadur

Help / Cymorth

Tafodiaith

Dynion

Geiriau unigryw

Rhestrau o eiriau tafodieithol o bob rhan o Gymru.

Adnoddau

Bysellfwrdd

Ar-lein

Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.