Enwau creaduriaid mewn enwau lleoedd
top
Dwyfoli ac addoli anifieiliaid
Roedd gan yr hen bobol olwg uchel ar greaduriaid y byd natur o'u cwmpas - yn yr hen grefyddau, roedd yr eryr, y blaidd, yr arth, y baedd, y march a'r tarw ac eraill yn cael eu dwyfoli a'u haddoli. Wrth hela anifeiliaid gwylltion, roedd gan yr helwyr cynnar barch ysbrydol at yr ysglyfaeth. Mae'n anodd i ni amgyffred hynny heddiw efallai, ond defod grefyddol sy'n dyrchafu'r tarw yw gwreiddiau'r ymladd teirw a welir o hyd yn ne-orllewin Ewrop.
Mae'r parch yma'n cael ei ddangos mewn ffurfiau enwau personol sy'n cynnwys elfen o enw anifail - Bleddyn, o blaidd, ac Arthur, er enghraifft. Mabwysiadodd uchelwyr ddarluniau anifeiliaid ar eu harfau sifalri a dan ddylanwad y stadau, daeth rheiny'n enwau ar westai a thafarnau.
Arfer arall sy'n dangos pa mor gysegredig yr ystyrir creaduriaid yw bod llyn, afon, craig mewn mannau arbennig yn cael eu henwi ar eu holau. Eithriadau prin yw rheiny serch hynny - mae'r rhan fwyaf o enwau lleoedd sy'n cynnwys enw anifail, aderyn neu bysgodyn yn ffrwyth sylwgarwch bod y rhywogaeth arbennig honno yn mynychu clogwyn neu lwyn, neu bod rhyw stori neu hanesyn yn gysylltiedig â chreadur a'r safle - e.e. mae Pwll y Gath yn yr Wybrnant ger Tŷ Mawr, cartref yr Esgob William Morgan, yn awgrymu bod cath wedi boddi (neu wedi cael ei boddi) yno ryw adeg, tra bod yr enw Carreg y Gwalch ar graig ar lethrau gorllewinol Dyffryn Conwy yn cofnodi bod y gwalch glas wedi bod yn nythu yno ers cenedlaethau. Mae'r arfer hwnnw wedi goroesi gan fod gwarchodwyr natur yn cadw golwg fanwl ar y graig yn ystod y tymor nythu o hyd gyda chymaint â chwe phâr o'r adar prin rheiny yn nythu yno ambell flwyddyn.
Cof gwlad am greaduriaid sydd wedi hen adael
Mae cof gwlad wedi'i ffosileiddio yn rhai o'r enwau a cheir cyfeiriadau ynddynt at greaduriaid prin eithriadol neu sydd wedi hen adael Cymru erbyn ein dyddiau ni. Er bod rhai ceirw gwyllt yn Eryri o hyd, nid ydynt ddegfed rhan mor gyffredin â'r hyn a awgrymir gan yr enwau sy'n cyfeirio at carw - Pant y Carw, rhwng Gwydir a Threfriw; Hwylfa'r Ceirw, Penygogarth; ewig - Bwlch Ewigod, Dolwyddelan; iwrch - Moel Iwrch, Nebo; Bryn Iwrch, Y Groeslon; Pant yr Iwrch, Llanbedr-y-cennin; Cerrig yr Ieirch, Pont yr Afon Gam); hydd - Pant yr Hyddod, Betws-y-coed; danas - Gwastadanas, Nant Gwynant.
Diflannodd bleiddiaid yn llwyr o Eryri ers canrifoedd ond gwelir Carreg y Blaidd a Chlust y Blaidd yn Uwchaled o hyd; mae Cwm y Bleiddiaid i'w ganfod dan yr Aran a than Foel Hebog ac mae Moel Fleiddiau i'w gweld rhwng Nanmor a Blaenau Dolwyddelan. Prin ydi'r bela a'r dyfrgi bellach ond ceir Craig y Bela ger Llyn Padarn, Bryn Bela yn Nhregarth a Phont Rhyd y Dyfrgi ym Mhadog, ger Ysbyty Ifan.
Byffalo, neu hen rywogaeth o wartheg corniog yw bual - pryd y gwelwyd yr olaf o'r rhain yng Nghwm Bual ar y Foel-goch tybed? Diflannodd y barcud coch yntau - er ei fod yn adennill ei dir yn Eryri hefyd erbyn hyn. Mae ei enw yno eisoes i'w groesawu yn ôl yn Nant y Barcud ym Mhenllyn.
Does dim sôn am ddod â'r afanc yn ôl i wylltiroedd Cymru yn wahanol i rai mannau yn yr Alban, ond mae Sarn yr Afanc ar afon Ogwen a Llyn yr Afanc yn afon Conwy. Mae'r olaf wrth gwrs yn gysylltiedig â chwedl am afanc anferth yn byw yn y dãr tywyll ac yn bwyta merched ifainc y fro nes i Huw Gadarn ddod a'i ddau ych bannog i'w lusgo oddi yno i lyn yr ochr draw i Foel Siabod. Mae Bwlch Rhiw'r Ychen a Pwll Llygad yr Ych yn perthyn i'r daith honno - yn dystiolaeth bellach o wirionedd y chwedl medd cof gwlad. Mae 'prun ddaeth gyntaf -yr enw neu stori' yn gêm ddifyr o ddyfalu yn hanes rhai o'r enwau hyn. Ôl-nodyn i'r stori yw bod 'llygad yr ych' yn enw arall ar Camomile.
Roedd geifr sir Gaernarfon yn cael eu hamaethu am eu llaeth a'u cig ar un adeg wrth gwrs a does wybod bellach ai'r anifeiliaid dof neu'r rhai gwylltion sydd mewn enwau fel Cwm Gafr a Phont yr Afr, Nant Peris a Ffridd Carreg y Bwch, Dolwyddelan.
Clogwyni a chreigiau
Mae Clogwyn yr Aderyn (ger Nanmor) a Chraig yr Aderyn (ger Llyn Llydaw) yn amlwg yn cynnig lloches i adar nythu neu glwydo arnynt. Ond weithiau llygad barddonol sydd wedi enwi craig neu bentir wrth enw creadur - dyna'r copa Pen yr Helgi Du, sy'n silwét o ben ci du os edrychwch chi o'r cyfeiriad cywir a Thrwyn y Fuwch, y pentir trwynsmwt ger Llandudno.
Mae'r dychymyg yn fyw iawn mewn nifer o enwau afonydd - gwelir yr afon yn debyg i deulu'r mochyn yn rhychu ei llwybr drwy bridd y ddaear: Afon Feinw (beinw: 'moch bach'), Dolwyddelan; Afon Hwch ger Llyn Peris. Dro arall, gwelir afon drochionog, fyrlymus yn debyg i gi bach chwareus sy'n dangos blew gwyn ei fol yn ewyn y dãr - dyna'r darlun yn Afon Golwyn a Nant Colwyn, Beddgelert.
Aeth yr eryr olaf o Eryri - ond gadawodd yntau ei enw ar ei ôl hefyd. Ar Glogwyn yr Eryr, Llyn Eigiau a chlogwyni eraill o'r un enwau ger Llyn Crafnant ac yng Nghapel Curig, yng Ngharreg yr Eryr, Beddgelert a Gartheyr, Betws-y-coed, mae cysgod adenydd yr hen aderyn urddasol hwnnw yn aros dros y tir.
Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn 2007 gan yr Athro Hywel Wyn Owen fel rhan o brosiect 'Beth sy' mewn enw?' gan edrych ar sut mae enwau lleoedd yn dehongli hanes, iaith a thirwedd Cymru.
Mwy
- Enwau lleoedd: Beth sy' mewn enw
- Enwau lleoedd: Afonydd
- Enwau lleoedd: Creaduriaid
- Enwau lleoedd: Crefydd a chredo
- Enwau lleoedd: Diwydiant ac amaeth
- Enwau lleoedd: Enwau personol
- Enwau lleoedd: Dylanwad y Saesneg
- Enwau lleoedd: Tafarnau
- Enwau lleoedd: Tirwedd
- Enwau lleoedd: Dylanwad tramor
- Enwau lleoedd Llŷn
- Enwau lleoedd Môn
- Enwau lleoedd de orllewin
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd A-C
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd G-P
- Hywel Wyn Owen: enwau lleoedd Rh-Y
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Geiriadur
Adnoddau

Ar-lein
Yr adnoddau a'r meddalwedd sydd ar gael i'ch helpu i fyw eich bywyd ar y we yn y Gymraeg.



